Plentyn Actif

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Plentyn Actif

Disgrifiad

Mae’r cwrs Plentyn Actif yn ymwneud â datblygiad symud, parodrwydd i ddysgu, a chwarae – mae symud yn rhan annatod o fywyd o genhedliad hyd at farwolaeth, a bydd profiad plant o symud yn chwarae rhan ganolog wrth lunio eu personoliaeth, eu teimladau a’u chyflawniadau. Nid yw dysgu yn ymwneud â darllen, ysgrifennu a mathemateg yn unig, ond mae’r rhain yn alluoedd uwch sy’n cael eu hadeiladu ar gryfder y berthynas rhwng yr ymennydd a’r corff.

Mae’r cwrs tair awr hwn wedi’i anelu at blant yn dilyn ymlaen o’r 3 blynedd gyntaf, gan gynorthwyo plant a rhoi’r wybodaeth, sgiliau a’r agweddau i ymarferwyr i gefnogi plant i fod yn ‘gwbl gorfforol’ (Greenland, 2009) yn y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y cwrs yn cymryd 3 awr, wyneb yn wyneb.

Maes pwnc

(Y Cynllun Blynyddoedd Cynnar Iach) Llythrennedd Corfforol

Cynulleidfa Darged

Pob Gweithiwr Gofal Plant sy’n gweithio gyda phlant dros 3 oed. Bydd darparwyr addysg y blynyddoedd cynnar yn benodol hefyd yn elwa ar yr hyfforddiant hwn.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook