Help gyda thalu am ofal plant

Help gyda thalu am ofal plant

Gall costau gofal plant fod yn ddrud. Isod mae manylion yr opsiynau gofal plant a’r cymorth sydd ar gael a all helpu. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd ar gael i gynnig cyngor.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.

Cyfrifiannell gofal plant

Defnyddiwch y gyfrifiannell hon i gael gwybod faint y gallech ei gael tuag at ofal plant cymeradwy, gan gynnwys:

  • gofal plant am ddim i blant rhwng 2 a 4 oed
  • help gyda chostau gofal plant os yw’ch plentyn yn iau nag 16 oed (neu’n iau na 17 oed ac yn anabl)

Dim ond rhyw 10 munud y dylai gymryd. Bydd arnoch angen gwybodaeth amdanoch chi ac am eich partner (os oes gennych chi un), gan gynnwys:

  • faint rydych chi’n ei wario ar ofal plant
  • unrhyw fudd-daliadau rydych chi neu’ch plentyn yn eu cael
  • eich incwm

Gwirio pa help y gallech ei gael gyda chostau gofal plant gyda’r cyfrifiannell gofal plant

Addysg y Blynyddoedd Cynnar

Mae gan bob plentyn 3-4 oed yng Nghymru hawl i 10 awr yr wythnos o leiaf o addysg y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu gan y llywodraeth am 39 wythnos o’r flwyddyn. Mae addysg y blynyddoedd cynnar ar gael o’r tymor ar ôl trydydd pen-blwydd plentyn mewn lleoliad blynyddoedd cynnar cymeradwy a all fod yn ddosbarth meithrin mewn ysgol, lleoliad cyn-ysgol cymeradwy neu gylch chwarae/Cylch Meithrin, neu feithrinfa ddydd gymeradwy.

Ewch i adran addysg y blynyddoedd cynnar o’r wefan hon i weld rhagor o fanylion a sut i wneud cais.

Y Cynnig Gofal Plant

O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant pob wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Gallai plant cymwys 3-4 oed fod â hawl i ofal plant wedi’i ariannu gan y llywodraeth o’r tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd nes eu bod mewn addysg amser llawn. Mae hyn yn golygu, yn ogystal â 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar ran amser, gallai’ch plentyn hefyd fod â hawl i 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod y tymor, a 30 awr yn ystod gwyliau’r ysgol.

Ewch i’n hadran ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru o’r wefan hon i weld rhagor o fanylion a sut i wneud cais.

Dechrau’n Deg

Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg, mae gan eich plentyn hawl i ofal plant wedi’i ariannu am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos, o’r tymor ar ôl ei ail ben-blwydd hyd y tymor mae’n cael ei drydydd pen-blwydd.

Ewch i adran Dechrau’n Deg o’r wefan hon i gael gwybod a ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg a sut i wneud cais.

Gofal plant di-dreth

Mae Gofal Plant Di-dreth yn gynllun gan y llywodraeth sy’n talu 20% o gostau gofal plant hyd at £2000 ar y mwyaf bob blwyddyn. Mae’r cynllun ar agor i holl rieni plant iau na 12 oed (neu iau na 17 oed os ydyn nhw’n anabl). Gallwch wneud cais i agor cyfrif Gofal Plant Di-dreth ar lein.

Ewch i wefan Gov.uk i weld manylion am ofal plant di-dreth.

Myfyrwyr sydd â phlant

Os ydych chi’n fyfyriwr ar gwrs gradd sydd â phlant neu os oes oedolyn sy’n dibynnu arnoch chi’n ariannol yn ystod eich astudiaethau, gallwch wneud cais am arian ychwanegol. Cewch wybod mwy ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr mewn addysg bellach sy’n astudio yng Nghymru yn gallu hawlio help gyda chost gofal plant oddi wrth y Gronfa Ariannol Wrth Gefn. Cysylltwch â’ch ysgol neu’ch coleg i gael rhagor o wybodaeth.

Aelodau o’r teulu sy’n gofalu am blentyn iau na 12 oed

Os ydych chi’n aelod o’r teulu sy’n hŷn nag 16 oed ond yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac rydych chi’n gofalu am blentyn iau na 12 oed (fel arfer tra bo’r rhiant neu brif ofalwr yn gweithio) mae’n bosibl bod gennych hawl i hawlio Credydau Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn cynnwys gofal rydych chi’n ei ddarparu o bell oherwydd y coronafeirws (COVID-19) – er enghraifft, dros y ffôn neu drwy alwad fideo wrth ichi hunan-ynysu. Cewch wybod mwy ar wefan Gov.uk.

Cynllun atgyfeirio anghenion ychwanegol

Mae cymorth ar gael i deuluoedd sy’n cael trafferth i ddeall ymddygiad, gweithred neu anghenion eu plentyn trwy helpu i ddod o hyd i gylch chwarae neu feithrinfa addas.

Ewch i’r dudalen we Gofal plant i blant ag anghenion datblygiadol ychwanegol i weld manylion.

Gofal plant cofleidiol i deuluoedd y lluoedd arfog

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Gofal Plant Cofleidiol (WAC) yn cael ei gyflwyno’n llawn ledled y Deyrnas Unedig o hydref 2022. Mae gofal plant cofleidiol yn cael ei adnabod fel ‘Gofal y tu allan i’r Ysgol’ yng Nghymru.

O ddechrau tymor yr hydref 2022, bydd cyllid o’r cynllun ar gael i bob teulu cymwys y lluoedd arfog sydd â phlant rhwng 4 ac 11 oed, ac sydd yn yr ysgol neu’n cael eu haddysgu gartref yn y Deyrnas Unedig. Os ydyn nhw’n gymwys, gall personél y lluoedd arfog hawlio hyd at 20 awr yr wythnos o gyllid ar gyfer pob plentyn sy’n mynychu gofal cyn ac ar ôl ysgol yn ystod tymor yr ysgol.

Rhaid i bob plentyn y mae personél y lluoedd arfog eisiau hawlio cyllid o’r cynllun ar ei gyfer fod wedi ei gofnodi gyda’r JPA a rhaid iddo fod â chyfrif Gofal Plant Di-dreth.

 

Dilynwch ni

Facebook