Childcare Offer for Wales

Provides working parents with a mixture of childcare and early education

Cynnig Gofal Plant Cymru

​​​​​​​​​​​​​​​​​Cynnig Gofal Plant Cymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 a 4 oed.

Gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos. Mae’r cynllun yn cwmpasu hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn helpu rhieni cymwys i:
  • ddychwelyd i’r gwaith
  • cynyddu eu horiau
  • gweithio’n fwy hyblyg
  • mynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant
Mwy o wybodaeth am Gynnig Gofal Plant Cymru​.

Ynglŷn â Chynnig Gofal Plant Cymru

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu rhieni cymwys gyda 30 awr cyfunol o ofal plant a Darpariaeth Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a ariennir gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae’r 48 wythnos yn cynnwys 39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol adeg tymor ysgol ynghyd â 9 wythnos o ofal plant y tu allan i dymhorau ysgol.

Byddwch yn atebol am unrhyw ofal plant sy’n cael ei ddefnyddio yn ystod y 4 wythnos na thelir amdanynt. Wythnosau gwyliau ysgol fydd y rhain bob amser.​​

39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol yn ystod tymor ysgol
Provision Awr yr wythnos​
Darpariaeth ddysgu sylfaen (addysg gynnar) 13.5 hours​*
Cynnig gofal plant 16.5 hours
​= 30 hours per week

*Mae nifer yr oriau sy’n cael eu cynnig ar gyfer Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn amrywio o un ysgol i’r llall. O ganlyniad, bydd y Cynnig Gofal Plant yn talu costau’r oriau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfanswm o 30 awr yr wythnos.

Nid oes angen i chi wneud cais am addysg gynnar er mwyn defnyddio elfen gofal plant y Cynnig. Bydd eich hawl yn cynnwys yr oriau hyn boed ydych yn eu defnyddio ai peidio.  Dysgwch sut i wneud cais am le addysg gynnar.

Mae arian y Cynnig Gofal Plant ar gyfer y gofal plant y mae’r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn ei ddarparu. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle y codir cost ychwanegol ar eu cyfer a bydd y darparwyr yn gallu codi ffi arnoch am y rhain.

Os hoffech fanteisio ar y cynllun Gofal Plant Di-dreth i helpu gyda’r costau ychwanegol hyn, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar wefan GOV.UK. Dysgwch fwy am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth​.​

Cymhwysedd​

Rydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant os ydych yn byw yng Nghymru, bod gennych blentyn 3 neu 4 oed, a’ch bod naill ai:

  • Yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol a llai na £100,000 y flwyddyn.
  • Wedi’ch cofrestru ar gwrs addysg bellach neu gwrs israddedig neu ôl-radd addysg uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd.

Os oes gennych bartner sy’n byw gyda chi, rhaid iddo hefyd fodloni’r meini prawf.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, mae arian ychwanegol ar gael. Cysylltwch â ni os gall fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn.

Mae rhai eithriadau cymhwysedd yn berthnasol. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru cyn i chi gyflwyno eich cais​.

Ni allwn gadarnhau a ydych yn gymwys nes ein bod wedi derbyn a phrosesu eich cais gorffenedig.

Bydd angen i chi lanlwytho’r dogfennau ategol canlynol i’ch cais:

  • Tystysgrif geni eich plentyn;
  • Tystiolaeth o’ch cyfeiriad, e.e. eich llythyr treth Gyngor diweddaraf;
  • Eich slipiau cyflog o’r 3 mis diwethaf os ydych yn cael eich cyflogi;
  • Eich ffurflen dreth hunanasesiad ddiweddaraf os ydych yn hunangyflogedig;
  • Llythyr cofrestru/cadarnhad o le mewn Addysg Bellach neu Addysg Uwch.

Bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth o gymhwysedd y ddau riant os ydych chi’n deulu â dau riant.

Sylwer:

  • Mae’r term ‘rhiant’ yn cyfeirio at rieni, gwarcheidwaid cyfreithiol, llys-rieni, rhieni mabwysiadol, gofalwyr maeth, gwarcheidwaid, gofalwyr sy’n berthnasau, gofalwyr sydd â Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig a phartneriaid hirdymor sy’n byw yn yr un cartref â’r plentyn.
  • Gall rhieni sydd ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth/rhiant/mabwysiadu ar hyn o bryd wneud cais am y Cynnig Gofal Plant os ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd uchod.
  • Mewn teulu rhiant sengl, mae’r meini prawf cymhwysedd uchod yn berthnasol i’r unig riant.
  • Mewn teulu dau rieni, mae’r meini prawf cymhwysedd uchod yn berthnasol i’r ddau riant.
  • Ni ellir cadarnhau cymhwysedd nes i ffurflen gais lawn gael ei derbyn a’i phrosesu gan y tîm Cynnig Gofal Plant a’ch bod wedi derbyn cadarnhad drwy e-bost.​

Eithriadau i’r Meini Prawf Cymhwysedd:

  • Mewn teulu dau riant lle bo un rhiant yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a bod y rhiant arall yn derbyn budd-daliadau penodol, gallech chi fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant mewn rhai amgylchiadau.Mae hyn yn seiliedig ar y rhiant yn derbyn, neu â hawl sylfaenol i dderbyn, un o’r budd-daliadau cymwys canlynol:
    • Budd-dal analluogrwydd;
    • Lwfans gofalwr;
    • Elfen Gofalwyr Credyd Cynhwysol;
    • Lwfans anabledd difrifol;
    • Budd-dal analluogrwydd hirdymor;
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh);
    • Credydau yswiriant gwladol ar sail analluogrwydd gweithio neu allu gweithio cyfyngedig;
    • Credyd Cynhwysol lle cafodd yr unigolyn ei asesu fel gallu cyfyngedig i weithio.
  • Ni fydd teuluoedd lle mae’r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod (neu sydd â hawl sylfaenol i’r budd-daliadau uchod), neu’r unig riant mewn teulu un rhiant, yn gallu cael mynediad i’r cynnig gofal plant.
  • Os bydd rhieni wedi gwahanu ond nid ydynt yn rhannu cyfrifoldeb cyfartal am warchod y plentyn, bydd y rhiant sydd â’r prif gyfrifoldeb gwarchod yn gymwys i ymgymryd â’r Cynnig (os bydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd).
  • Os bydd rhieni’n rhannu cyfrifoldeb gwarchod cyfartal, bydd angen i un rhiant gael ei enwebu fel y rhiant arweiniol ar gyfer y Cynnig.
  • Gallai rhieni sydd mewn addysg neu hyfforddiant ac sydd wedi atal eu hastudiaethau’n ffurfiol oherwydd salwch hirdymor barhau i fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant.
  • Gallai rhieni sy’n gyflogedig/hunangyflogedig ond sydd i ffwrdd o’r gweithle dros dro ar absenoldeb salwch statudol ddal i fod yn gymwys i dderbyn y Cynnig Gofal Plant.

Dewis darparwr gofal plant

Gallwch ddewis unrhyw ddarparwr gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ac sydd wedi’i gofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Click here for a list of Childcare Offer providers in the Caerphilly county borough (Dewis)

Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant.

Pryd i wneud cais​​

Dyddiad geni’r plentyn Cymwys o Cymwys i Ceisiadau ar agor
1 Medi 2019 i 31 Awst 2020 31 Awst 2024 Ar agor
​1 Medi 2020 i31 Rhagfyr2020 ​8 Ionawr 2024 31 Awst 2025​ ​Ar agor
​1 Ionawr 2021 i 31 Mawrth 2021 ​8 Ebrill 2024 31 Awst 2025​ ​Ar agor
​1 Ebrill 2021 i 31 Awst 2021 ​2 Medi 2024 ​31 Awst 2025 ​4 Mehefin 2024

Gwrthodir ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad agor.

Os ydych yn gymwys bydd eich arian yn dechrau ar ôl i chi sefydlu cytundeb gofal plant​ gyda’ch darparwr ac ar ôl i’r cytundeb hwn gael ei dderbyn.​

Sut i wneud c​ais

Gallwch wneud cais ar wefan Cynnig Gofal Plant Cymru.

Mae’r cais hwn ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn unig. Rhaid i chi fynd i Dderbyniadau Meithrin i wneud cais am addysg gynnar​.

Beth i’w wneud os yw eich amgylchiadau wedi newid

Byddwn yn cynnal gwiriadau cymhwysedd bob tymor. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a’r lleoliad gofal plant os yw eich amgylchiadau wedi newid.

Os yw amgylchiadau eich teulu wedi newid ac nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun mwyach, byddwch yn dal i allu manteisio ar y Cynnig am 8 wythnos, gan roi cyfle i chi ddod yn gymwys eto.

Parents already registered for the Childcare Offer for Wales

Parents already registered for the Childcare Offer for Wales can sign in here. Parents sign in to your Childcare Offer for Wales account | GOV.WALES

Cysylltwch â ni

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech drafod eich cais, yna cysylltwch â ni.

Ffôn: 03000 628 628

Ebost:

Dilynwch ni

Facebook