Mae cynllun Lleoedd a Gefnogir yn rhoi arian i gefnogi plentyn sydd ag anghenion datblygu sy’n dod i’r amlwg, sydd ddim yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, drwy ddarparu gofal plant o ansawdd da am y tymor yn syth cyn iddynt gychwyn ar eu Lleoliad Addysg Blynyddoedd Cynnar. Mae’r cyllid yn cefnogi plant mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig sydd wedi’u contractio gyda ni i ddarparu Lleoedd a Gefnogir.
Cynigir uchafswm o pum sesiwn 2.5 awr yr wythnos i blant, amser tymor yn unig.
Pwrpas y lleoliad yw nodi unrhyw anghenion cyn i’ch plentyn ddechrau ei leoliad Addysg Blynyddoedd Cynnar. Rhoddir targedau a strategaethau ar waith i arwain y lleoliad, sy’n caniatáu darparu cefnogaeth briodol i’ch plentyn. Mae’r targedau a’r strategaethau hyn yn cael eu rhannu â chi a’r lleoliad gofal plant cyn i’r lleoliad ddechrau ac yn cael eu hadolygu drwy gydol y lleoliad.
Os teimlir y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn i gael mynediad i’r amgylchedd dysgu yn y lleoliad gofal plant, bydd gwybodaeth am anghenion eich plentyn yng nghyd-destun y lleoliad yn cael ei chyflwyno i’r panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg. Bydd y panel yn penderfynu ar lefel unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen gan gynnwys cynllun i leihau lefel y cymorth erbyn diwedd y lleoliad.
Ar ddiwedd y lleoliad mae Cyfarfod Pontio, lle gall pob person arall sy’n rhan o gefnogi eich plentyn rannu gwybodaeth gyfoes i gynllunio’r broses o drosglwyddo i Addysg Blynyddoedd Cynnar. Gofynnir i chi fynychu, ynghyd â darparwr gofal plant eich plentyn a darparwr Addysg Blynyddoedd Cynnar.
Mae Lleoedd a Gefnogir yn cael eu targedu at blant sydd ag anghenion datblygiadol sy’n dod i’r amlwg, sydd fel arfer yn cael eu cefnogi gan dimau Portage neu Ymuno a Chwarae. Os yw eich plentyn yn cael ei gefnogi gan y naill neu’r llall o’r timau hyn, gyda’ch caniatâd, ac os yw’n briodol, bydd eich gweithiwr Blynyddoedd Cynnar yn gofyn am Le a Gefnogir i’ch plentyn. Gan weithio gyda chi, bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu gan bob gweithiwr proffesiynol er mwyn sicrhau bod penderfyniad gwybodus yn cael ei gytuno gan bawb sy’n gysylltiedig â’r mater.
Fodd bynnag, os nad yw’ch plentyn yn derbyn cefnogaeth gan y naill neu’r llall o’r timau hyn, a’ch bod yn teimlo yr hoffech wybod mwy, mae gwybodaeth ar ein Tudalen Datblygu Plant.
Os yw’ch plentyn yn cael ei gymeradwyo ar gyfer Lle a Gefnogir, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau hyn. Bydd angen i chi ddod o hyd i ddarparwr gofal plant a gymeradwyir gan Leoedd a Gefnogir addas a sicrhau lleoliad. Byddwch yn cael eich cefnogi drwy’r broses hon gan eich Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar.
Os nad oes gennych Weithiwr Blynyddoedd Cynnar sydd mewn cysylltiad rheolaidd â chi, bydd un yn cael ei ddyrannu i chi i helpu gyda’r broses leoli.
Bydd eich Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar yn eich tywys drwy’r broses leoli gan ddefnyddio’r rhestr o ddarparwyr isod ac yn cyfeirio at y targedau a’r strategaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer eich plentyn.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gynyddu nifer y darparwyr gofal plant sy’n cynnig Lleoedd a Gefnogir. Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r rhestr o ddarparwyr gan fod mwy yn gallu cynnig lleoliad.
Am wybodaeth ac arweiniad ynghylch beth i chwilio amdano wrth ddewis gwasanaeth gofal plant, ewch i’n tudalen Dod o hyd i ofal plant.
Cyn y gall cyllid ddechrau, rhaid i’ch darparwr gofal plant dewisol ein hysbysu o’r dyddiad cychwyn a’r nifer o sesiynau rydych yn eu cymryd trwy gwblhau Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol. Mae’n bwysig bod eich darparwr gofal plant yn cwblhau’r ffurflen hon gyda chi’n bresennol, fel bod pob un ohonoch yn glir beth sy’n cael ei ofyn. Gall eich gweithiwr Cymorth Blynyddoedd Cynnar gefnogi hyn os dymunwch.
Ni all yr ariannu ddechrau nes bod y Ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol wedi cael ei gymeradwyo a bod cadarnhad o ran yr ariannu, y dyddiad cychwyn, y dyddiad gorffen a’r nifer o oriau sydd wedi eu hariannu. Byddwch chi a’ch darparwr gofal plant yn derbyn e-bost i gadarnhau hyn.
Nod yr Hwb Blynyddoedd Cynnar yw prosesu eich Ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol o fewn 10 diwrnod gwaith, fodd bynnag, yn ystod cyfnodau prysur y gallai hyn gymryd mwy o amser. Os yw’r ffurflen yn anghyflawn, gall hyn hefyd oedi’r broses.
Os ydych am wneud newid i’ch oriau wedi’u hariannu (ni all hyn fod yn fwy na 5 sesiwn o 2.5 awr) neu roi diwedd ar leoliad yn gynnar, bydd angen i chi drafod hyn gyda’ch darparwr gofal plant a bydd angen cyflwyno Ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol newydd.
! | Mae’r cytundeb cytundebol i ddarparu gofal plant rhwng y rhieni/gwarcheidwaid a’r darparwr gofal plant a dylid ei orfodi’n gyfreithiol trwy arwyddo contract lleoliad rhwng rhieni/gwarcheidwaid a’u darparwr gofal plant dewisol. |
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu angen cefnogaeth, yna cysylltwch â’r Hwb Blynyddoedd Cynnar os gwelwch yn dda.
Dilynwch ni