Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Gwefan Cyngor Sir Caerffili

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk.

Mae’r wefan hon yn cael ei rheoli gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon.

Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau gwrthgyferbyniad a ffontiau
  • Chwyddo’r testun at hyd at 300% heb iddo fynd oddi ar ochrau’r sgrin
  • Welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Welywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd neu anghenion hygyrchedd.

Bar Offer Recite Me

Rydyn ni hefyd yn darparu technoleg gynorthwyol, gan alluogi pob ymwelydd â’n gwefan ni i addasu eu profiad drwy ystod o opsiynau i weddu i’w hanghenion hygyrchedd ar-lein a’u hiaith. Mae bar offer Recite Me yn darparu swyddogaeth testun-i-leferydd, nodweddion steilio cwbl addasadwy, cymhorthion darllen ac offeryn cyfieithu gyda dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys 35 o leisiau testun i leferydd a llawer o nodweddion eraill. Cliciwch ar offer ‘Accessibility’ uwchben y blwch chwilio i’w actifadu.

Ar ffôn symudol, fe welwch yr opsiwn yn y ddewislen hamburger menu. Hamburger menu

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.

Sut rydyn ni’n profi’r wefan

Rydyn ni’n profi ein gwefan gan ddefnyddio’r platfform monitro gwefannau, WebAim, ac yn cynnal gwiriadau â llaw cyson ar yr holl dudalennau, dogfennau, a chynnwys arall cyn eu bod nhw’n cael eu cyhoeddi.

Beth i’w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o’r wefan hon

Os na allwch chi ddod o hyd i rywbeth sydd ei angen arnoch chi ar y safle hwn, dywedwch wrthon ni amdano a byddwn yn darparu’r hyn sydd ei angen arnoch chi mewn ffordd arall:

E-bost: HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk

Er mwyn ein helpu i ddeall y broblem cyn gynted ag y gallwn, dywedwch wrthon ni:

  • y cyfeiriad gwe neu deitl y dudalen lle daethoch chi o hyd i’r broblem
  • beth yw’r broblem
  • pa gyfrifiadur a meddalwedd rydych yn eu defnyddio

Os ydych chi wedi gwneud cwyn ac nad ydych chi’n fodlon â’r hyn a wnaethom yn ei gylch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.

Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau neu yn meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.

Y weithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni eich hun

Os oes gennych nam lleferydd, yn fyddar neu fod nam ar eich clyw, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddo ‘Next Generation Text’ (a elwir hefyd yn Text Relay a TypeTalk). Deialwch 18001 cyn y rhif ffôn llawn.

Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn gweithredu o sawl lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae rhai o’r safleoedd hyn yn darparu’r gwasanaeth cyfnewid testun.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn ni drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain neu rywun i gyfieithu iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.

Cysylltwch â ni i holi am eich ymweliad.

Gwybodaeth dechnegol o ran hygyrchedd Caerffili.gov.uk

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan ar gael, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Baich anghymesur

Nid ydyn ni’n hawlio baich anghymesur ar unrhyw ran o’n gwefan ni.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Systemau trydydd parti

Mae rhai o’r gwasanaethau ar-lein rydyn ni’n eu cynnig yn cael eu hadeiladu a’u cynnal gan gyflenwyr trydydd parti ar ein rhan ac efallai na fyddan nhw’n cydymffurfio â’r un lefelau o hygyrchedd â gweddill y wefan.

  • Dewis Cymru: Dyma wasanaeth cenedlaethol rydyn ni’n ei ddefnyddio i gofnodi a hysbysebu ein holl ddarparwyr gofal plant. Mae modd gweld eu datganiad hygyrchedd nhw ar eu gwefan https://www.dewis.cymru/accessibility
  • Abavus (My Council Services): Rydyn ni’n defnyddio meddalwedd ffurflenni ar-lein corfforaethol y Cyngor i gynhyrchu ein ffurflenni ar-lein. Wrth ddylunio’r ffurflenni, rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau eu bod nhw’n hawdd i’w deall, i’w cwblhau, ac i’w cyflwyno a bod y drefn darllen a llywio yn rhesymegol ac yn reddfol.

Rydyn ni’n monitro hygyrchedd y safleoedd hyn ac yn gofyn i gyflenwyr ddatrys materion hygyrchedd sy’n codi.

Rydyn ni’n mynnu bod unrhyw systemau trydydd parti newydd a gomisiynwn ar gyfer y wefan yn cydymffurfio â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.1.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar fedi 5 Gorffennaf 2022. Fe’i diweddarwyd diwethaf ar fedi 5 Gorffennaf 2022.

 

Dilynwch ni

Facebook