Cymorth i blant ddysgu sut i siarad a chyfathrebu
Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd ac mae datblygu sgiliau lleferydd ac iaith yn sgiliau bywyd pwysig. Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol er mwyn dweud wrthym ni beth sydd ei angen arnyn nhw, dysgu yn yr ysgol, cymdeithasu â’r teulu a chwarae gyda ffrindiau.
Mae ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn allweddol ar gyfer datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu cadarn.
Mae’r rhan fwyaf o blant yn datblygu sgiliau iaith heb lawer o broblemau, ond mae angen rhagor o gymorth ar rai. Gall y cymorth hwn ddod gan aelodau o’r teulu, ymarferwyr gofal plant a gweithwyr y blynyddoedd cynnar.
Camau datblygiad lleferydd ac iaith
Mae plant yn datblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu ar gyfraddau gwahanol. Gall gwybod yr hyn sy’n nodweddiadol helpu nodi problemau lleferydd ac iaith yn gynnar.
Sut i annog datblygiad iaith eich plentyn
Mae nifer o weithgareddau y gallwch chi eu gwneud gartref neu yn eich ardal leol i helpu datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn.
- Grwpiau rhieni a thwdlod: Gallwch chi ddod o hyd i grwpiau lleol yn eich ardal chi i gysylltu â theuluoedd eraill a rhannu gweithgareddau ar Dewis.
- Dewch i siarad â’ch babi: Cwrs llawn hwyl, rhyngweithiol ac AM DDIM i deuluoedd sydd â babanod rhwng 3 a 12 mis. Mae’n cynnig amser strwythuredig i gysylltu a chwarae, ynghyd ag awgrymiadau o ran cynorthwyo datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu babanod. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i gadw lle.
- Siarad Gyda Fi: Mae’r ymgyrch hon, wedi’i llunio gan Lywodraeth Cymru, yn annog rhieni i chwarae, gwrando a siarad â’u plant 0-5 oed. Ar wefan Siarad Gyda Fi a , mae amrywiaeth o offer, awgrymiadau ac adnoddau defnyddiol, hygyrch, sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr, i gynorthwyo rhieni ar daith eu plentyn i ddysgu iaith.
- Tiny Happy People – Dysgu Iaith Plant – Casgliad o ffilmiau ac erthyglau sy’n cynnig cyngor ar sgiliau iaith plant. Archwiliwch y gwahanol gasgliadau am sgiliau iaith cynnar ac awgrymiadau da yn ôl oedran plant.
- Magu plant. Rhowch amser iddo. – Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud fel rhiant i helpu datblygiad eich plentyn.
- 1st 1,000 Days – New Parent Network – Mae’n cynnig arweiniad ar sut i annog datblygiad iaith plentyn.
- Ymgyrch Edrych, Dweud, Canu, Chwarae yr NSPCC – Mae’n cynnig awgrymiadau hwyliog a hawdd i ymgorffori Edrych, Dweud, Canu a Chwarae yn eich trefn ddyddiol gyda’ch babi.
Beth i’w wneud os oes gennych chi bryderon
Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar y gweithgareddau a’r gwefannau uchod ond mae dal gennych chi bryderon am ddatblygiad lleferydd ac iaith eich plentyn, mae nifer o gamau y gallwch chi eu dilyn i gael y cymorth sydd ei angen arno.
- Siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu : Maen nhw’n gallu darparu arweiniad ac efallai y byddan nhw’n awgrymu camau pellach.
- Cymorth gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar: Rydyn ni’n cynnig cymorth gyda datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu (0-3 oed) drwy grwpiau neu sesiynau unigol. Cysylltwch â ni i ofyn am gymorth.
- Mae lleoliadau gofal plant yn defnyddio pecyn cymorth COMIT (Tîm Ymyrraeth Cyfathrebu): Os yw eich plentyn yn mynd i leoliad gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, bydd y tîm gofal plant yn defnyddio’r pecyn cymorth i ddeall datblygiad cyfathrebu eich plentyn, cyn rhoi targedau a gweithgareddau priodol i’w gynorthwyo.
- Atgyfeiriad Lleferydd ac Iaith: Os yw eich plentyn yn 2½ oed, gallwch chi ofyn i’ch Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu am atgyfeiriad at therapi lleferydd ac iaith. Fel arall, gallwch chi wneud atgyfeiriad eich hun at Wasanaethau Plant Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Dilynwch wasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith i Blant Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar X (Twitter) a Facebook i gael diweddariadau rheolaidd.
Gwasanaeth Allgymorth y Ganolfan Adnoddau Arbenigol: Mae cymorth gan Wasanaeth Allgymorth y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gael i blant sy’n mynychu meithrinfa mewn ysgol, o’r mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Os bydd staff ysgol yn teimlo bod eich plentyn yn cael anawsterau gyda lleferydd ac iaith, byddan nhw’n trafod hyn gyda chi ac yn gwneud cais am werthusiad gan dîm Lleferydd ac Iaith y Gwasanaeth Allgymorth. Bydd Athro Arbenigol neu Weithiwr Cyfathrebu yn ymweld â meithrinfa ysgol eich plentyn i’w arsylwi a chasglu gwybodaeth. Os bydd hynny’n briodol, bydd aelod o’r tîm yn gweithio gyda chi a’ch plentyn, gan ddarparu cyngor a gweithgareddau i helpu datblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae Gwasanaeth Allgymorth y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Dilynwch ni