Cwestiynau Cyffredin o ran Gofal Plant Dechrau’n Deg

Cwestiynau Cyffredin o ran Gofal Plant Dechrau’n Deg

Cymhwysedd

Beth yw'r diffiniad o blentyn cymwys?

Os yw’ch plentyn yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, gall gael mynediad at Ofal Plant Dechrau’n Deg o’r tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn ddwy oed hyd at ddiwedd y tymor maent yn troi’n dair oed. Mae dyddiadau cau penodol lle mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 2 oed i fod yn gymwys i gael gofal plant y tymor canlynol. Gweler Pryd i wneud Cais

Dydw i ddim yn meddwl y byddaf i'n gymwys; sut gallaf i wirio?

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi ehangu’r meysydd sy’n gymwys i gael Gofal Plant Dechrau’n Deg, ac os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, bydden ni’n eich annog chi i ddilyn y ddolen isod i’n gwiriwr cod post ni i wirio a ydych chi’n gymwys – www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk/gofal-plant/gofal-plant-dechraun-deg-2/

Mae codau post eraill o'm cwmpas yn gymwys, felly, rwy'n meddwl dylai fy nghod post gael ei gynnwys.

Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen sy’n edrych ar ddata budd-daliadau incwm – dangosydd tlodi – er mwyn targedu ardaloedd lle mae’r cyfrannau uchaf o blant 0–3 oed yn byw mewn aelwydydd sy’n derbyn budd-daliadau incwm. Mae’r ardaloedd hyn wedi’u nodi drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, data’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac maen nhw wedi cael eu rhannu fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is.

Mae gan Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is ffiniau, sy’n golygu bod rhai codau post wrth ymyl ei gilydd yn gallu dod o dan Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is gwahanol. Ond, os ydych chi’n teimlo bod eich cod post yng nghanol codau post eraill sy’n gymwys, cysylltwch â ni fel y gallwn ni wirio hyn i chi.

Pam nad yw'r gofal plant ar gael i bob plentyn 2 oed?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar fesul cam i gynnwys pob plentyn dwy oed. Cafodd Cam 1 o ehangu Dechrau’n Deg ei lansio ym mis Medi 2022 ac roedd yn cynnwys pedair elfen y rhaglen Dechrau’n Deg, sef Ymweliadau Iechyd gwell; cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu; cymorth rhianta, a gofal plant o ansawdd uchel. O fis Ebrill 2023, bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar gyflwyno elfen gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel Dechrau’n Deg yn raddol i blant 2-3 oed. Bydd Cam 3 yn edrych ar yr hyn y gallai fod ei angen i gynnig Dechrau’n Deg i bob plentyn ledled Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eto pryd y mae hyn yn debygol o gychwyn.

Rwy’n gweithio, felly, pam nad ydy fy mhlentyn yn gallu cael mynediad at y gofal plant oherwydd nad ydw i'n byw yn y cod post cywir.

Dechrau’n Deg yw rhaglen y Blynyddoedd Cynnar wedi’i thargedu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Nod Dechrau’n Deg yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant drwy liniaru effaith tlodi, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwael yn ystod plentyndod cynnar, gan gynnwys canlyniadau iechyd.

Nid yw’r rhaglen yn gysylltiedig â bandiau treth y cyngor. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen wedi’i thargedu’n ddaearyddol sy’n defnyddio data budd-dal incwm, dangosydd procsi ar gyfer tlodi, i dargedu ardaloedd sydd â’r cyfrannau uchaf o blant 0-3 oed sy’n byw mewn aelwydydd sy’n cael budd-dal incwm. Mae’r ardaloedd hyn wedi’u nodi gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD), data gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Chyllid a Thollau EF ac maen nhw wedi’u dadansoddi yn ôl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs).

Os ydych chi’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant, efallai y gallwch chi hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer eich plentyn 3 i 4 oed. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen we Cynnig Gofal Plant Gymru.

Beth sy'n digwydd pan fydd rhieni wedi gwahanu ond nad ydynt yn rhannu gofal cyfartal o blentyn?

I fod yn gymwys am gyllid, rhaid i’ch plentyn fod yn byw mewn cod post Dechrau’n Deg. Dylai hwn fod prif gyfeiriad cartref y plentyn, y cyfeiriad y telir ei Fudd-dal Plant iddo a dyma’r cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru gydag Ymwelydd Iechyd y plentyn. Dylai’r ffurflen hon gael ei chwblhau gan y prif riant sy’n byw yn yr un cyfeiriad â’r plentyn.

Beth sy'n digwydd mewn teuluoedd lle mae rhieni'n byw ar wahân ond yn rhannu gofal cyfartal o blentyn?

I fod yn gymwys am gyllid, rhaid i’ch plentyn fod yn byw mewn cod post Dechrau’n Deg. Dylai hwn fod prif gyfeiriad cartref y plentyn, y cyfeiriad y telir ei Fudd-dal Plant iddo a dyma’r cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru gydag Ymwelydd Iechyd y plentyn. Dylai’r ffurflen hon gael ei chwblhau gan y prif riant sy’n byw yn yr un cyfeiriad â’r plentyn.

Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn yn cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg ond rydyn ni'n symud i gyfeiriad newydd o fewn bwrdeistref sirol Caerffili?

Mae’n rhaid i chi neu’ch darparwr gofal plant gwblhau ffurflen newid cyfeiriad i ddweud wrthym am y cyfeiriad newydd. Os ydych wedi symud i ardal Dechrau’n Deg arall, bydd eich plentyn yn gallu parhau i dderbyn yr arian. Fodd bynnag, os na wnewch chi hyn, efallai y bydd angen i’ch cyllid ddod i ben. Mae rhai amgylchiadau lle mae’n bosibl y gallwch barhau i dderbyn yr arian trwy allgymorth Dechrau’n Deg.  Yn yr achosion hyn, efallai y gofynnir i chi ddiwygio’ch cais presennol.

Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn yn cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg ym mwrdeistref sirol Caerffili a symudwn i ardal awdurdod lleol newydd?

Mae’n rhaid i chi neu’ch darparwr gofal plant gwblhau ffurflen newid cyfeiriad i ddweud wrthym am y cyfeiriad newydd. Yna, mae angen i chi wneud cais newydd i’r awdurdod lleol newydd.  Cliciwch yma i ddod o hyd i’r awdurdod lleol.  Byddant yn gwirio os yw’ch plentyn yn gymwys drwy gwblhau’r gwiriadau angenrheidiol.

Ydw i'n gallu dewis lleoliad gofal plant yn agosach at ble dwi'n gweithio?

Ydych. Os yw’ch plentyn wedi’i gymeradwyo ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg, byddwn yn ariannu’r lleoliad mewn unrhyw un o’n lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg sydd wedi’u cymeradwyo. Nid oes angen iddo fod y lleoliad agosaf at ble’r ydych yn byw.

Cael mynediad at ofal plant Dechrau'n Deg

Sawl awr o ofal plant fydd yn cael ei ariannu?

Darperir Gofal Plant Dechrau’n Deg ar uchafswm o 12.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig.

Pa adegau o'r dydd y gellir cael mynediad at Ofal Plant Dechrau'n Deg?

Mae sesiynau gofal plant rhan-amser Dechrau’n Deg o ansawdd uchel yn canolbwyntio ar wella’r canlyniadau i blant ac i gefnogi eu trosglwyddiad i addysg gynnar a thu hwnt. Er mwyn cyflawni’r budd mwyaf posib, dylai sesiynau fod yn 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos. Er bod rhywfaint o hyblygrwydd gyda hyn, y mae modd ei drafod yn unigol, byddem yn annog plant i gael mynediad i sesiwn Dechrau’n Deg nad yw’n cynnwys amseroedd cysgu neu ginio.

A oes cyfyngiad i'r nifer o oriau y gellir cael Gofal Plant Dechrau'n Deg yn ystod unrhyw ddiwrnod?

Oes.  Dylai’r sesiynau fod am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, fel bod y plentyn yn cael y budd mwyaf o’r rhaglen.  Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, os ydych yn deulu sy’n gweithio er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno defnyddio 2 sesiwn y dydd (mae hyn yn cyfateb i 5 awr, sef yr uchafswm) i gefnogi eich patrwm gwaith.  Gallwch drafod hyn gyda’ch darparwr gofal plant Dechrau’n Deg dewisol i wirio a fyddai eu cofrestriad yn caniatáu hyn.  Rhaid i leoliad Dechrau’n Deg a’r teulu gytuno ar y trefniant hwn.

Dyma ganllawiau cenedlaethol pellach:

  • Rhaid i amseroedd sesiynau gefnogi anghenion y teulu.  Os mai dim ond sesiwn 2.5 awr sydd ei angen bob dydd, o dan delerau’r contract ac wrth gadw at eu Datganiad Pwrpas, rhaid i’r darparwr ddarparu ar gyfer y cais hwn.
  • Yn aml mae angen agwedd hyblyg tuag at nifer y sesiynau a fynychir, er mwyn darparu ar gyfer anghenion rhieni neu blant. Er enghraifft, os yw rhiant yn penderfynu dod â’r plentyn am dair sesiwn yn unig, dylid darparu ar gyfer hyn.  Fodd bynnag, dylai darparwyr annog rhieni i dderbyn eu hawl llawn pan fo hynny’n bosibl.
  • Dylai sesiwn gofal plant Dechrau’n Deg ganolbwyntio ar gyfleoedd datblygu o ansawdd uchel ac felly ni ddylai gynnwys amseroedd cysgu, cinio, na gofal cofleidiol.
  • Rhaid i amseroedd sesiynau fod yn dryloyw ac wedi’u datgan yn Natganiad Pwrpas y darparwr gofal plant. Er mwyn cael mynediad at ddwy sesiwn mewn un diwrnod, mae’n rhaid cofrestru’r lleoliad gofal plant ar gyfer gofal dydd llawn, a nodi’r sesiynau yn eu Datganiad Pwrpas gan nodi’n glir y gallai plant aros am ddwy sesiwn y dydd. Ni ellir darparu mwy na 2.5 awr gan ddarparwyr sesiynol sydd ond yn gallu darparu gofal i’r un plentyn am lai na 4 awr mewn un diwrnod.
  • Mae unrhyw beth y tu allan i’r oriau a ariennir gan Ddechrau’n Deg cymeradwy, er enghraifft mwy na’r sesiwn 2.5 / 5 awr, yn cael ei ystyried yn oriau ychwanegol ac mae’n rhaid cytuno arno yn y contract rhwng y rhiant a’r darparwr oherwydd fe fydd y darparwr yn codi tâl am hyn.

A allaf gario oriau heb eu defnyddio drosodd i'r wythnos nesaf neu wyliau ysgol?

Na. Nid ydych yn gallu ‘bancio’ oriau gofal plant, hynny yw drwy dwyn ymlaen unrhyw oriau nas defnyddiwyd o un wythnos i’r llall. Ni ellir ychwaith ddefnyddio oriau sydd heb eu defnyddio yn ystod gwyliau ysgol. Mae Gofal Plant Dechrau’n Deg yn ystod amser tymor yn unig. Ni all nifer yr oriau sy’n cael eu hariannu fod yn fwy na 12.5 mewn unrhyw wythnos yn ystod y tymor a gallwch ddewis faint o’r 12.5 awr rydych am eu defnyddio. Bydd unrhyw oriau nas defnyddir mewn wythnos yn cael eu colli. Gallwch dalu am oriau ychwanegol o ofal plant, yn ychwanegol at y 12.5 awr, ond cost i chi fydd hynny.

Oes hyblygrwydd i newid yr oriau sydd wedi eu bwcio o fewn wythnos?

Oes, mae hyn yn bosibl ar yr amod y gall y darparwr gofal plant ddarparu ar gyfer y newid. Rhaid iddynt gwblhau Ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol newydd. Os ydych am gynyddu’r oriau a ariennir, ni all hyn fod yn fwy na 12.5 awr o gyllid yr wythnos neu fwy na 5 awr o fewn unrhyw ddiwrnod.

Pwy all ddarparu Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Mae’r gofal plant a ariennir dim ond ar gael mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy sydd wedi bodloni’r meini prawf ansawdd gofynnol ac sydd wedi’u contractio drwy’r System Prynu Deinamig (SPD) i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg ar ein rhan.

Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i gynyddu’r nifer o leoedd gofal plant Dechrau’n Deg sydd ar gael yn y fwrdeistref sirol drwy gefnogi ein darparwyr gofal plant nad ydynt wedi’u contractio eto i gynnig Dechrau’n Deg i fodloni’r meini prawf ansawdd y mae’r cynllun yn gofyn amdanynt.  Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r rhestr o ddarparwyr gan fod mwy yn gallu cynnig Dechrau’n Deg.

Alla i ddefnyddio darparwr gofal plant Dechrau'n Deg sydd y tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili?

Oes, fodd bynnag, rhaid bod y lleoliad gofal plant wedi;i contractio drwy System Prynu Deinamig Caerffili i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg.

Beth sy'n digwydd os nad yw fy narparwr gofal plant eisiau cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Os ydych yn defnyddio, neu’n dymuno defnyddio, darparwr gofal plant nad yw wedi’i gontractio gennym i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg, rhaid i chi benderfynu a ydych am barhau â’r darparwr hwnnw a pheidio â derbyn y cyllid, neu ddefnyddio darparwr amgen sydd wedi’i gontractio i ddarparu Dechrau’n Deg.

Faint o leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg, sydd wedi'u cymeradwyo, gall fy mhlentyn cael mynediad atynt?

Un o nodau sylfaenol rhaglen Dechrau’n Deg yw cynnig gofal plant cyson, o safon i’r plentyn.  Felly, rydym yn eich annog i beidio â defnyddio mwy nag un darparwr gofal plant ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg.  Fodd bynnag, gall fod rhai amgylchiadau eithriadol lle y gall fod angen i chi gyrchu mwy nag un darparwr ac, mewn achosion o’r fath, gall eich plentyn gyrchu uchafswm o ddau leoliad gofal plant cymeradwy, ar unrhyw adeg benodol.

A yw Gofal Plant Dechrau'n Deg ar gael yn ystod gwyliau’r banc?

Ydy, os yw eich darparwr gofal plant ar agor dros ŵyl y banc, yna gellir ariannu hyn trwy Dechrau’n Deg. Fodd bynnag, bydd y darparwr yn derbyn yr un gyfradd hyd yn oed os mai eu polisi nhw yw codi tâl uwch ar wyliau’r banc.

Cwestiynau darparwyr gofal plant

Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghyfradd Gofal Plant Dechrau'n Deg?

Y gyfradd ddyddiol safonol yw £16 y plentyn am bob sesiwn 2.5 awr, sy’n cynnwys yr holl nwyddau traul sydd eu hangen ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn effeithiol, er enghraifft, byrbryd iach, adnoddau ar gyfer pob gweithgaredd dysgu, amser rhyddhau arweinydd ar gyfer gwaith papur ac amser rhyddhau ar gyfer hyfforddiant. Mae’n eithrio bwyd, trafnidiaeth, a thaliadau ychwanegol eraill megis costau gweithgareddau a theithiau y mae’n rhaid talu amdanynt. Ni ddylai rhieni, sy’n gymwys i dderbyn darpariaeth sy’n cael ei hariannu gan Ddechrau’n Deg, fod o dan anfantais oherwydd taliadau ychwanegol os nad ydynt am ymgymryd â’r gweithgareddau ychwanegol hynny. Er enghraifft, gallai rhieni gasglu plentyn cyn cinio ar ddiwedd sesiwn gofal plant Dechrau’n Deg ac felly’n peidio â wynebu unrhyw gostau ychwanegol am ginio. Am eglurhad pellach ynglŷn â’r gyfradd, cyfeiriwch at yr SPD.

A allaf godi ffioedd ychwanegol i rieni am yr oriau hynny a ariennir gan Ddechrau'n Deg?

Na. Ni allwch godi ffioedd ychwanegol yr awr, hyd yn oed os byddech fel arfer yn codi mwy na’r cyllid a dderbynnir ar gyfer y sesiynau Gofal Plant Dechrau’n Deg.

A ddylwn i fod yn cymhwyso'r un gyfradd sesiwn mewn perthynas â rhieni Dechrau'n Deg a rhai nad ydynt yn Dechrau'n Deg?

Nid yw’r canllawiau Dechrau’n Deg yn nodi y dylai darparwyr godi’r un gyfradd ar gyfer rhieni Dechrau’n Deg a rhai nad ydynt yn rhai Dechrau’n Deg. Byddai unrhyw daliadau am leoedd gofal plant sydd wedi’u hariannu’n breifat yn ôl disgresiwn y darparwr gofal plant i’w osod.

Allaf godi tâl am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?

Fel arfer, darperir byrbryd yn ystod y sesiwn 2.5 awr a fyddai’n cyd-fynd â’n cynllun cyn ysgol iach a chynaliadwy. Ni allwch godi tâl ychwanegol am fyrbrydau iach.  Os yw rhiant sy’n gweithio yn dymuno defnyddio dwy sesiwn mewn diwrnod i gyd-fynd â’i batrwm gwaith, rydym yn rhagweld y byddai amser ychwanegol i ginio, ac felly cinio’n unol â’ch diwrnod arferol. Yn yr amgylchiadau hyn gallwch godi ffioedd ychwanegol i rieni am brydau bwyd y tu allan i’r sesiynau Dechrau’n Deg; fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn fwy na £7.50 y dydd.  Gallwch hefyd godi tâl am weithgareddau a thrafnidiaeth, fel teithiau oddi ar y safle sy’n golygu cost ychwanegol neu i gasglu/gollwng plant. Fodd bynnag, ni ddylai’r costau ychwanegol hyn roi unrhyw riant, nad ydynt yn gallu talu am y gwasanaeth ychwanegol hwn a sydd ond angen y sesiwn Dechrau’n Deg, dan anfantais. Gweler hefyd cwestiwn rhif 16.

A gaf i ofyn i rieni dalu am eu horiau Dechrau'n Deg o flaen llaw, yna eu had-dalu pan ddaw taliad drwodd gan yr awdurdod lleol?

Na. Nod lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yw cefnogi teuluoedd, yn enwedig teuluoedd incwm is na fyddai fel arall yn gallu fforddio costau gofal plant.   Gallai codi tâl gwasanaethau a dderbyniwyd ar rieni o flaen llaw wahardd y rhieni hynny sydd fwyaf angen cymorth, gan ei bod yn bosibl iawn na allant ei fforddio.

Os bydda i'n mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol, a fydda i'n cael fy nhalu?

Mae Canllawiau Gofal Plant Dechrau’n Deg gan Lywodraeth Cymru yn nodi, “Mae cynnig gofal plant craidd Dechrau’n Deg ar gael i rieni/gofalwr pob plentyn 2 a 3 oed sy’n gymwys i gael 12.5 awr yr wythnos, am 39 wythnos y flwyddyn, yn unol â’r tymhorau ysgol.”  Fodd bynnag, gallai darparwr gofal plant fynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol, ac yr un pryd â sesiynau sy’n cael eu darparu yn ystod gwyliau’r ysgol os oes cytundeb rhwng y teuluoedd sy’n cael eu heffeithio arnyn nhw a’r darparwr gofal plant.  Hefyd, byddai angen i hyn gael ei gymeradwyo gan Dîm y Blynyddoedd Cynnar fel bod modd addasu’r cofrestrau a’r taliadau.

A fydd cyllid gofal plant Dechrau'n Deg yn talu costau gofal plant anuniongyrchol, fel tâl cadw yn ystod y gwyliau neu ffi gweinyddu neu gadw o flaen llaw?

Na. Mae cyllid gofal plant Dechrau’n Deg yn ymwneud dim ond â darparu gofal plant yn uniongyrchol. Wrth gyflwyno’r tendr i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg, rydych yn gwneud hynny ar y ddealltwriaeth bod y lleoliadau yn amser tymor yn unig a dylech addasu eich polisïau a’ch taliadau’n unol â hynny. Fodd bynnag, os yw rhiant yn ethol i ddefnyddio darparwr gofal plant sy’n codi ffioedd cadw neu gostau gweinyddol eraill, mae hyn yn fater i’r rhiant ac mae’n rhaid i’r rhiant dalu amdano.

A oes modd ôl-ddyddio taliadau gofal plant Dechrau'n Deg os yw rhiant wedi bod yn cael mynediad at y gofal plant cyn i'w cais gael ei gymeradwyo?

Na, ni all cyllid ddechrau nes bod yr arian wedi’i gymeradwyo drwy Leoliad Pentyn Unigol cymeradwy. Gall rhiant gael mynediad i’r gofal plant tra’u bod yn aros i’w cais gael ei brosesu, ond bydd hyn ar ei gost ei hun.  Nid yw taliadau gofal plant Dechrau’n Deg yn cael eu hôl-ddyddio.

Ydy darparwyr yn dal i gael eu talu os yw'r plentyn yn sâl?

Ydynt. Bydd cyllid gofal plant Dechrau’n Deg yn talu costau’r oriau wedi’u harchebu, hyd yn oed pan nad yw’r plentyn yn mynychu.  Fodd bynnag, mae presenoldeb yn cael ei fonitro, a bydd y teulu’n cael cefnogaeth i fod yn bresennol.  Dylech annog presenoldeb da a thrafod gyda’r rhiant os oes patrymau lle nad ydynt yn bresennol, er mwyn gwirio os yw’r sesiynau’n cyd-fynd ag anghenion y teulu. Os yw’r teulu ar agor i wasanaethau plant, dylech gysylltu â’r gweithiwr cymdeithasol.  Mae disgwyl i chi ddweud wrthym a oes patrymau cyson o ddiffyg presenoldeb anesboniadwy dros gyfnod o ddeufis.

A all darparwyr gofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili ddarparu gofal plant Dechrau'n Deg i blant o ardaloedd awdurdodau lleol eraill?

Gallant. Fodd bynnag, bydd angen i chi drafod y cyllid posibl gyda’r awdurdod lleol perthnasol.  Ni all CBS Caerffili ariannu plant sy’n byw y tu allan i’r fwrdeistref.

Beth os yw'r plentyn yn byw hanner yr wythnos gyda mam ym Merthyr a hanner yr wythnos gyda dad yng Nghaerffili?

Bydd yr arian yn dibynnu ar ble mae’r plentyn yn byw am y rhan fwyaf o’r wythnos.  Er enghraifft, os yw’r plentyn yn byw gyda mam ym Merthyr o ddydd Llun i ddydd Iau a’i bod gyda dad yng Nghaerffili ddydd Gwener i ddydd Sul, bydd angen i’r fam fod yr arweinydd enwebedig ac mae’n rhaid gwneud y cais i Gyngor Merthyr fel lleoliad y mwyafrif o’r preswyliad, a rhaid rhoi gwybod i’r ddau awdurdod lleol.

Mae angen enwebu un o’r rhieni i weithredu fel y prif riant a bydd angen iddynt fyw mewn Ardal Dechrau’n Deg. Mae’r ffordd mae’r oriau sy’n cael eu hariannu yn cael eu defnyddio gan rieni yn fater iddyn nhw gytuno.

Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol?

Mae angen cwblhau’r ffurflen Lleoliad Plentyn Unigol gyda’r rhiant a’r darparwr yn bresennol ac mae’n cymryd tua 2-3 munud i’w chwblhau os oes gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn barod.

A all rhiant ddewis unrhyw leoliad gofal plant sydd wedi'i gymeradwyo gan Ddechrau'n Deg?

Gallant. Os yw’r plentyn wedi’i gymeradwyo ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg, byddwn yn ariannu’r lleoliad yn unrhyw un o’n lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg sydd wedi’u cymeradwyo.  Nid oes angen iddo fod y lleoliad agosaf at le maen nhw’n byw.  Gall y rhiant fynd i safle Dewis a dewis unrhyw leoliad Gofal Plant Dechrau’n Deg Cymeradwy, yna cysylltu â’r lleoliad i weld a oes ganddynt le.

Os nad oes gan riant fynediad at ffôn clyfar neu unrhyw TG, sut gallant wirio neu gael eu cefnogi i wneud cais?

Os nad oes gan y teulu gefnogaeth gan dîm y Blynyddoedd Cynnar, gallant gysylltu â’r Hwb Blynyddoedd Cynnar, a fydd yn gallu cwrdd â rhieni mewn lleoliadau cymunedol fel llyfrgelloedd i’w cefnogi i gwblhau’r ffurflen gais.

Gall y bar offer hygyrchedd ar wefan y Blynyddoedd Cynnar hefyd helpu teuluoedd, sydd â rhwystrau llythrennedd ac iaith, drwy ddarllen y wefan allan iddyn nhw a/neu newid i iaith arall.

Rwy'n warchodwr plant, felly alla i ddim gwneud y cymhwyster Lefel 5 gan nad oes gen i unrhyw gynorthwywyr ac felly na allaf reoli staff. Ydw i'n dal i allu gwneud cais i ddarparu lleoedd Dechrau'n Deg?

Bydd. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i ddiwallu’r ansawdd sydd ei angen.  Y disgwyliad ar hyn o bryd yw gweithio tuag at gyflawni cymhwyster llawn Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, er mwyn gallu gwneud cais i gyflawni’r contract Dechrau’n Deg.

Fodd bynnag, os oes gennych gynorthwyydd sydd wedi cofrestru i weithio gyda chi, gellir cyflawni’r cymhwyster Lefel 5 ac mae disgwyl i weithio tuag at y lefel hon.

Mae PACEY hefyd yn gweithio gyda gwarchodwyr plant i gefnogi mynediad at gymwysterau lefel 3, 4 a 5 priodol.

Fel lleoliad gofal dydd, nid oes gennym arweinydd gyda'r cymhwyster lefel 5 eto. A allwn ni wneud cais i ddarparu'r lleoedd Dechrau'n Deg?

Gallwch. Rydym yn cydnabod bod angen cael amser wedi’i ganiatáu er mwyn i staff gofal plant gynyddu eu cymwysterau. Felly, byddwn yn derbyn darparwyr gofal plant ar y contract os ydych yn gweithio tuag at sicrhau’r cymhwyster cywir ar gyfer y lleoliad.

Sut fydd yn gweithio i mi fel gwarchodwr plant os yw fy mhlant eisoes yn dod yn llawn amser ac mae gen i blant 2 oed eisoes yn mynychu fy lleoliad?

Rydym yn deall y bydd gan warchodwyr plant gymhareb wahanol yn unol â’r rheoliadau (dim ond 3 o blant o dan 5 oed) ac nid cymhareb 1:4 mewn lleoliadau sy’n seiliedig ar grwpiau. Os oes gennych blant 2 oed yn mynychu, edrychwch ar eu cod post ar gyfer cymhwysedd a chefnogwch y rhiant i wneud cais os ydynt yn gymwys.  Ar ôl ei gymeradwyo, gall y rhiant wedyn gael mynediad at 12.5 awr o gyllid yr wythnos fel 5 sesiwn Dechrau’n Deg o’u horiau archebu presennol, ac yna cael contract gyda chi (a thalu chi ar wahân) am yr oriau ychwanegol sydd eu hangen arnynt bob wythnos.  Rydym yn deall y gallwch gynnig lleoedd ychwanegol dim ond os oes gennych rai gwag, ac ni fyddem yn disgwyl i chi eithrio unrhyw blentyn sydd wedi archebu lle eisoes gyda chi.

Rydym yn feithrinfa diwrnod llawn amser, ond mae'r cyllid Dechrau'n Deg yn ystod y tymor. A allwn ni fynnu bod rhieni'n mynychu drwy gydol y flwyddyn, ac yna defnyddio'r cyllid yn erbyn ffioedd y rhiant? Nid oes gennym staff sydd yn rhai yn ystod y tymor yn unig.

Os cofrestrwch ar gyfer y contract i gyflwyno Dechrau’n Deg, bydd angen i chi edrych ar sut y gallwch gynnig y ddarpariaeth amser tymor yn unig yn rhan amser o fewn eich model busnes. Efallai ei bod hi’n werth siarad â’ch Swyddog Gofal Plant yn fanylach.  Fodd bynnag, ni allwch ofyn i rieni gofrestru am fwy o amser na’r oriau Dechrau’n Deg.

Dyma’r un egwyddor os ydy rhieni ond am ddod i’r sesiwn 2.5 awr a dydyn nhw ddim am archebu lle diwrnod llawn a thalu am oriau ychwanegol.  Bydd angen i chi ystyried eich model busnes a sut y byddwch yn gallu cynnig y ddarpariaeth sesiynol.

Beth am ddiwrnodau hyfforddiant staff a diwrnodau 'HMS'? Sut mae trefnu hyn?

Mae mynediad at lawer o hyfforddiant o dan raglen Dechrau’n Deg, y gellir ei gyflwyno gyda’r nos, ar ddydd Sadwrn ac yn ystod y dydd Llun i ddydd Gwener.  Bydd amrywiaeth o gefnogaeth a bydd angen i chi edrych ar anghenion eich lleoliad a’ch staff er mwyn eu cynnwys yn eich Cynllun Gwella Lleoliad, a gweithio gyda’ch Ymgynghorydd Gofal Plant i nodi anghenion ac amseroedd hyfforddiant sy’n addas i ryddhau staff.

Os bydd angen i chi gau eich lleoliad chi er mwyn caniatáu i’r holl staff fynychu hyfforddiant, byddwn ni’n dal i dalu am y sesiynau arferol sydd wedi’u trefnu. Dylai hynny dalu am y gost i’r staff fynychu’r sesiwn hyfforddi. Lle bo modd, byddwn ni’n gweithio gyda darparwyr i drefnu hyfforddiant y tu allan i amserau’r sesiynau.

Beth sy'n digwydd os ydyn ni'n penderfynu nad ydym am ddarparu'r contract Dechrau'n Deg?

Byddwch yn gallu parhau gyda rhieni sy’n talu ffioedd a’r Cynnig Gofal Plant, ond ni fyddwch yn gallu darparu unrhyw lefydd a ariennir gan gontract fel Dechrau’n Deg, Lleoedd a Gefnogir neu Addysg Blynyddoedd Cynnar.

A fyddwn yn llai tebygol o gael unrhyw grantiau os na fyddwn yn cofrestru ar gyfer Dechrau'n Deg?

Na, nid o reidrwydd. Ond pan fydd grantiau’n cael eu gordanysgrifio, bydd angen blaenoriaethu’r ardaloedd lle mae angen ehangu’r ddarpariaeth (lleoedd neu ddarpariaeth wedi’i hariannu). Bydd hyn yn glir yn nhermau ac amodau’r grant a’r blaenoriaethau a nodwyd ynddo.

Pa mor hir mae'n cymryd i gael ei dderbyn ar y contract SPD i allu cynnig y lleoedd Dechrau'n Deg?

Bydd yn dibynnu ar faint o leoliadau sy’n gwneud cais ar yr un pryd, yn ogystal â pha mor gyflym y gall y lleoliad basio’r gwiriadau cyn dosbarthu.  Fodd bynnag, mae’r tîm blynyddoedd cynnar i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i gymeradwyo lleoliadau cyn gynted â phosibl, yn barod i’w cyflawni ar ôl y Pasg.

Bydd yr SPD yn parhau ar agor fel y gall lleoliadau ymuno yn ddiweddarach os ydyn nhw’n dymuno.

Bydd angen i leoliadau wneud cais i ddod ar yr SPD a chael eu cymeradwyo.

Yna byddant yn derbyn asesiad ITERS gyda’r Ymgynghorydd Gofal Plant.

Bydd yr Ymgynghorydd yn cefnogi’r lleoliad i ddatblygu Cynllun Gweithredu’r Lleoliad.

Unwaith y bydd y camau allweddol sydd eu hangen yn cael eu cyflawni, bydd y lleoliad yn cael ei gymeradwyo i ddarparu lleoedd Dechrau’n Deg.

Bydd Dewis yn cael ei ddiweddaru gyda’r # er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn cael ei dynnu drwodd i’r rhestr yn y chwiliadau rhieni.

Bydd y lleoliad yn parhau i weithio ar gamau eraill yn eu Cynllun Gweithredu Gwella Lleoliad i wella ansawdd yn barhaus yn eu darpariaeth. Byddant yn gallu darparu lleoedd Dechrau’n Deg wrth wneud hyn.

Bydd gan leoliadau lawer o gefnogaeth trwy gydol y broses, a chefnogaeth barhaus unwaith y byddant yn darparu lleoedd Dechrau’n Deg.

Oes disgwyl i leoliadau gynnig sesiynau cynefino ar gyfer plant newydd sy’n dechrau, ac os yn ystod y sesiynau hynny mae gan ddarparwr bryderon am blentyn, i ble maen nhw'n mynd am gyngor?

Oes, byddem yn gobeithio y byddai’r sesiynau cyntaf y bydd plentyn yn eu defnyddio yn cynnwys rhywfaint o amser cynefino gyda’r rhiant. Efallai bod llawer o blant yn cael gofal plant am y tro cyntaf ac felly mae’n bwysig egluro i’r rhiant y gallai fod angen sesiynau byrrach arnynt i ddechrau ac yna adeiladu dros yr wythnos gyntaf.

Os oes gennych bryderon am blentyn, dylech drafod y pryderon gyda’r rhiant a gofyn am gyngor oddi wrth yr Ymgynghorydd Gofal Plant.

Os yw fy lleoliad gofal plant eisoes yn darparu Lleoedd a Gefnogir, oes angen i mi ailymgeisio drwy'r system?

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif a gwneud cais am ‘Lotiau’ eraill heb orfod cyflwyno’r holl wybodaeth eto. Felly, os ydych eisoes wedi’ch cymeradwyo i ddarparu Lleoedd a Gefnogir, gallwch hefyd ofyn i ddarparu Dechrau’n Deg. Mae cymorth ar gael drwy Gaffael a thîm y Blynyddoedd Cynnar.  Ar ôl i chi basio’r gwiriadau darparu, byddwch yn cael eich cymeradwyo i ddarparu’r lleoedd a ariennir gan Ddechrau’n Deg yn ogystal â Lleoedd a Gefnogir.

Beth sy'n digwydd os nad yw'r cyllid yn talu am gyflogau staff wrth i gyfraddau cyflog cynyddu ac nid yw'n ystyried Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr, Pensiwn, Gwyliau ac ati?

Bydd angen i chi ystyried eich model busnes a sut y bydd yn gweithio yn eich lleoliad.  Fodd bynnag, mae yna gefnogaeth busnes gan y tîm Gofal Plant.
Mae’r pris fesul lle yn cael ei gyfrifo ar £2950 y flwyddyn, felly ar y gymhareb 1:4 (1 aelod o staff i 4 plentyn), byddai’n cyfrifo i fod yn £11,800.  Os nad yw hyn yn ddigonol i roi yswiriant i staff rhan amser, yna byddai angen i ni ystyried hyn gyda chi a’ch gwybodaeth fanwl.  Fodd bynnag, gosodir y pris fesul awr y plentyn a byddai unrhyw newidiadau’n effeithio ar bob lleoliad a rhaid aros o fewn y gyllideb a ganiateir.

Pe bai angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar blentyn, byddent yn dod am bris uwch fesul lle sy’n cael ei dalu i’r lleoliad er mwyn darparu ar gyfer unrhyw oriau staff ychwanegol sydd eu hangen.

Os yw plentyn yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg ond sydd eisoes mewn lleoliad gofal plant nad yw'n cynnig Dechrau'n Deg, a allant symud lleoliad?

Gallant, os yw’r rhiant am gael budd o’r arian, efallai y byddant yn penderfynu symud i leoliad sy’n cael ei gontractio i ddarparu Dechrau’n Deg. Byddai’n ofynnol iddynt roi rhybudd i’w lleoliad presennol o dan eu cytundeb presennol, cyn gwneud cynlluniau i symud.  Fodd bynnag, dewis y rhiant yw hwn, ac efallai y byddant yn penderfynu aros lle maen nhw a rhoi’r gorau i’r cyllid.

Beth sy'n digwydd pan fydd rhieni'n hwyr yn casglu o'r lleoliad? Allwn ni godi tâl ar y rhieni i dalu am y staffio?

Dylai fod gan y lleoliad gontract gyda’r teulu ynghylch lleoliad eu plentyn. Os ydych chi, fel lleoliad, yn codi tâl am fod yn hwyr fel rhan o’ch contractau chi fel arfer, bydd hyn yn berthnasol. Fodd bynnag, mae lleoliadau sy’n cael eu hariannu gan Dechrau’n Deg wedi’u targedu at y cymunedau mwyaf difreintiedig ac, felly, bydden ni am i chi fod yn ofalus i beidio ag effeithio’n negyddol ar deuluoedd a allai fod ag amgylchiadau anodd eisoes. Dylai unrhyw gostau fod yn rhesymol ac mae angen trafod gyda’r rhiant i sicrhau nad yw’r taliadau’n cronni gan effeithio’n andwyol ar y plentyn, y teulu a’r lleoliad. Os oes pryderon ynghylch cyrraedd yn hwyr yn aml a bod angen cymorth ar y rhiant o bosib, cysylltwch â thîm y Blynyddoedd Cynnar er mwyn i’r teulu allu cael gafael ar gymorth priodol.

Dilynwch ni

Facebook