‘Mae coginio yn sgil bywyd hanfodol sy’n galluogi plant, pobl ifanc ac oedolion i fyw bywydau hapus ac iach.’ Mae Coginio Gyda’n Gilydd yn darparu profiadau ‘coginio iach’ ymarferol mewn ysgolion, cyn-ysgolion a chymunedau ledled Cymru. Maen nhw hefyd yn darparu hyfforddiant proffesiynol i staff i gynyddu eu hyder er mwyn addysgu sgiliau coginio sylfaenol. Mae Coginio Gyda’n Gilydd yn cael ei redeg gan dîm bach o Athrawon Bwyd cymwys gyda llwyth o brofiad.
Bydd Richard Shaw yn rhoi cyflwyniad am addysgu a chynllunio gweithgareddau coginio ac arddangosiad o amrywiaeth o weithgareddau coginio a bwyd. Ar ôl y sesiwn, bydd gan gyfranogwyr fynediad at dudalen hyfforddiant Hwb breifat, sy’n cynnwys yr holl ddogfennau cynllunio, pecynnau ryseitiau a thaflenni gwybodaeth
Bydd gan gyfranogwyr y sgiliau a’r syniadau i weithredu coginio iach gyda phlant a theuluoedd. Bydd cynllunio ac adnoddau ar gael i gyfranogwyr fel eu bod nhw’n gallu ymgorffori coginio iach yn eu harferion gofal plant.
Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto)
Ddim yn berthnasol
Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni