Mae’n hanfodol i ddiogelwch bwyd bod pawb sy’n trin bwyd yn ymwybodol o’r peryglon a’r rheolaethau sy’n gysylltiedig â’r mathau o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu. Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl yn mynd yn sâl, ac mae nifer o bobl agored i niwed yn marw yn sgil bwyta bwyd halogedig. Mae gan fusnesau bwyd rwymedigaeth gyfreithiol a moesol i sicrhau nad ydyn nhw’n cyfrannu at yr ystadegau hyn. Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau’r cwrs hyfforddi hwn o fewn y 6 mis cyntaf o gyflogaeth.
Wrth gyflawni’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ddeall egwyddorion glendid a hylendid, yn ogystal â chadw cynhyrchion bwyd yn ddiogel.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth, wyneb yn wyneb â thiwtor.
Rheoleiddio
Gweithwyr Gofal Plant / Y rhai sy’n gweithio tuag at fod yn Warchodwr Plant / Gwarchodwyr Plant
£15 y pen
Codir tâl am y cwrs hwn a rhaid ei dderbyn o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y cwrs. Rhaid i bob taliad gael ei wneud gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Ni fydd sieciau, arian parod, na throsglwyddiadau banc yn bosibl. Byddwn ni’n anfon e-bost ar wahân atoch chi yn gofyn am hyn.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Iaith | Darparwr |
---|---|---|---|---|
18 Chwefror 2022 | 9.30am – 4.30pm | Tredomen Innovation and Technology Centre (CF82 7FN) | Saesneg |
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni