Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg y Blynyddoedd Cynnar

Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg y Blynyddoedd Cynnar

Rydyn ni eisiau i bob plentyn ddod yn ddysgwr annibynnol sy’n hyderus ac yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu llawn hwyl. Fodd bynnag, mae rhai plant yn cael trafferth gyda hyn ac mae angen cymorth mwy targedig arnyn nhw i’w helpu nhw i ymsefydlu a datblygu eu sgiliau annibyniaeth.

Mae Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg y Blynyddoedd Cynnar yn nodi plant a allai fod angen y ddarpariaeth uwch hon. Bydd Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar yn casglu gwybodaeth gennych chi a gweithwyr proffesiynol eraill i’w chyflwyno i’r panel. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu’n cynnwys nodau rydych chi’n gweithio arnyn nhw gyda’ch gilydd a’r strategaethau sy’n cael eu defnyddio. Hefyd, mae’n dweud wrthym ni beth rydych chi’n teimlo sydd angen i’r lleoliad ei wneud.

Mae’r panel yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn, ychydig cyn pob hanner tymor. Mae hyn yn rhoi amser i gynllunio ar gyfer y lleoliad gofal plant ar gyfer y tymor i ddod.

Mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i aelodau’r panel gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r plentyn a’r teulu er mwyn i’r panel benderfynu a oes angen darpariaeth uwch ar y lleoliad gofal plant i ddiwallu anghenion eich plentyn, fel hyfforddiant i’r tîm, strategaethau a gwaith datblygu mewn grŵp bach, offer arbenigol neu unrhyw amser ychwanegol.

Unwaith y bydd y panel wedi cytuno ar lefel y ddarpariaeth uwch, bydd y gweithiwr yn cael gwybod am hyn drwy e-bost. Bydd Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar yn rhannu hwn gyda chi. Wedyn, gallwch chi roi’r e-bost hwn i’r lleoliad gofal plant a fydd yn ei ddefnyddio i ofyn am gyllid ar gyfer y cymorth ychwanegol sydd wedi’i gytuno.

Cyn dechrau mewn lleoliad gofal plant, bydd y lleoliad yn trefnu cyfarfod pontio. Bydd y lleoliad yn eich gwahodd chi a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda chi i’r cyfarfod. Yn y cyfarfod, rydych chi i gyd yn rhannu gwybodaeth i ddatblygu proffil un dudalen eich plentyn. Mae’r Proffil Un Dudalen yn nodi cryfderau eich plentyn, yr hyn sy’n bwysig iddo a’r ffordd gorau i’w gynorthwyo yn y lleoliad gofal plant.

Aelodau’r panel

Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda phlant sydd â lefelau amrywiol o anghenion sy’n dod i’r amlwg ac anghenion cymhleth.

Dyma’r aelodau:

  • Cadeirydd, Rheolwr Perfformiad, CBSC
  • Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol Arweiniol y Blynyddoedd Cynnar, CBSC
  • Rheolwr Ymyrraeth Gynnar, CBSC
  • Rheolwr Gofal Plant, CBSC
  • Rheolwr Gweithredol Ymwelwyr Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Swyddog Statudol, CBSC
  • Prif Seicolegydd Addysg, CBSC
  • Athro Allgymorth, Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae’r Drindod

Mae cyflwynwyr y panel yn cynnwys:

  • Arweinydd Tîm – Cynghorydd Gofal Plant, CBSC
  • Arweinydd Tîm – Tîm Anghenion Ychwanegol, CBSC
  • Arweinydd Tîm – Cyfathrebu, CBSC
  • Cynghorydd Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol, CBSC
  • Cynghorydd Datblygiad Plant – Cynrychiolydd Gwasanaeth, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae gwahanol lefelau o ddarpariaeth uwch. Dylai pob darparwr gofal plant fod yn gynhwysol i ddiwallu anghenion plant. Fodd bynnag, efallai y bydd angen lefel isel, ganolig neu uchel o ddarpariaeth uwch ar rai plant i’w helpu nhw i fanteisio ar yr amgylchedd dysgu.

Mae gan rai plant anghenion meddygol corfforol cymhleth ac mae angen rhagor o ddarpariaeth gofal plant arbenigol arnyn nhw. Bydd plant sy’n gymwys ar gyfer lleoliad gofal plant sy’n cael ei ariannu drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg ac sydd angen gofal plant arbenigol yn cael lle drwy’r Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg yn seiliedig ar y dystiolaeth wedi’i darparu. Ar hyn o bryd mae rhai lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg arbenigol yng Nghylch Chwarae Dechrau’n Deg Sunshine yng Nghanolfan Plant Caerffili yn Eneu’r-glyn.

 

Dilynwch ni

Facebook