Gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar

Gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar

Gall gyrfa ym maes gofal plant roi llawer o foddhad i chi. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant, ac os ydych yn hoffi eu gweld yn ffynnu, gallai gyrfa ym maes gofal plant fod yn berffaith i chi.

Mae gofal plant a phrofiadau chwarae o safon uchel yn hanfodol i blant ifanc er mwyn iddynt gael cyfle i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.

Mae staff gofal plant yn chwarae rôl hanfodol drwy gefnogi datblygiad plant. Gwyddom o waith ymchwil fod gofal plant o safon uchel, yn enwedig ym mlynyddoedd cynnar plentyn, yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau plentyn.

Os ydych yn meddwl beth i’w wneud pan fyddwch yn gorffen yn yr ysgol, neu os ydych eisoes yn gweithio yn y sector gofal plant neu hyd yn oed yn meddwl am newid eich gyrfa, gall Tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili gynnig cyngor ac arweiniad i chi ar gyfleoedd hyfforddiant gofal plant a gyrfaoedd yn y sector.

I gael rhagor o wybodaeth am weithio yn y sector gofal plant, ewch i wefan Gofalwn.Cymru.

Cymwysterau y bydd arnoch eu hangen

Er mwyn gweithio ym maes gofal plant, bydd angen i chi weithio tuag at gymhwyster perthnasol.

Mae gwybodaeth am y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gofal plant i’w gweld ar restr gyfredol Gofal Cymdeithasol Cymru o gymwysterau, neu er mwyn geld y cymhwyster Gwaith Chwarae perthnasol edrychwch ar restr SkillsActive.

Mae cyfleoedd cyllid ar gael i helpu tuag at gostau cymwysterau, gan gynnwys y Rhaglen Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Rhaglen gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop yw hon, ac mae’n ariannu ymarferwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae sy’n bodoli’n barod i ymgeisio am gymwysterau gofal plant a chwarae cydnabyddedig.

Yn ogystal â’ch cymwysterau, caiff hyfforddiant pellach a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ei annog, a bydd yn eich helpu i ddal i fyny â’r newidiadau yn y sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.

Mae gennym Dîm Datblygu Gweithlu pwrpasol i’ch cefnogi â hyn, gan ddarparu mynediad at hyfforddiant o safon ym mhob agwedd ar ofal plant a chwarae. Edrychwch ar ein hyfforddiant a gwybodaeth am fusnes i weld y manylion a’r cyrsiau diweddaraf sydd ar gael.

https://arolygiaethgofal.cymru/darparu-gwasanaeth-gofal

Gwirfoddoli yn y sector gofal plant

Mae Tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn croesawu gwirfoddolwyr addas sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes gofal plant.  Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli mewn lleoliad gofal plant, gallwn ddarparu cyfleoedd i chi gael y sgiliau a’r profiad y bydd arnoch ei angen.

Mae gennym unigolyn sy’n gyfrifol am gefnogi a mentora ein gwirfoddolwyr yn ystod eu lleoliad.  Mae’n bosibl hefyd y gallwn ddarparu unrhyw hyfforddiant angenrheidiol y bydd ar wirfoddolwyr ei angen.

Gyrfa Cymru

Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich gyrfa, paratoi i gael swydd, a chanfod ac ymgeisio am y prentisiaethau, cyrsiau a’r hyfforddiant iawn. Edrychwch ar wefan Gyrfa Cymru i gael mwy o fanylion.

Digonolrwydd gofal plant

Os ydych yn meddwl am fod yn ofalwr plant neu am agor lleoliad gofal plant newydd, dylech ymchwilio i weld faint o ofal plant sydd yn eich ardal, er mwyn sicrhau y bydd eich busnes yn hyfyw ac yn gynaliadwy, a’ch bod yn diwallu anghenion lleol eich cymuned.

Bob 5 mlynedd mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.

Gweld yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd gofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili

Eisiau darganfod mwy?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yrfa ym maes gofal plant, cysylltwch â Claire Williams drwy anfon ebost at willic23@caerffili.gov.uk.

 

Dilynwch ni

Facebook