Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd dan anfantais yng Nghymru.
Mae’r help yn cynnwys:

Mae gan eich plentyn yr hawl i ofal plant o ansawdd wedi’i ariannu am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos, o’r tymor ar ôl ei ail ben-blwydd hyd at y tymor mae’n cael ei drydydd pen-blwydd ac yn manteisio ar leoliad Addysg y Blynyddoedd Cynnar.

Mae Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn eich helpu chi gyda rhianta ac yn darparu unrhyw help a chyngor a allai fod angen arnoch chi, o’r cyfnod cyn geni hyd at 3 blwydd ac 11 mis oed.

Yn Dechrau’n Deg Caerffili, rydyn ni’n gwerthfawrogi rhieni, gofalyddion a theuluoedd ehangach fel yr addysgwyr cyntaf a pwysicaf plant. Mae hyn wrth wraidd yr holl wasanaethau rydyn ni’n eu darparu.
Mae cymaint o ffyrdd y gall Dechrau’n Deg Caerffili eich helpu chi fel rhiant.

Cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yw nod craidd y rhaglen Dechrau’n Deg.
Dilynwch ni