Deall Diogelu Plant ac Oedolion

Manylion y cwrs a sut i gadw lle

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Deall Diogelu Plant ac Oedolion

Disgrifiad

Mae’r hyfforddiant diogelu lefel sylfaenol hwn yn ofynnol ar gyfer yr holl staff gofal plant sy’n dod i gysylltiad â phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau’r cwrs hyfforddi hwn o fewn y 6 mis cyntaf o gyflogaeth.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy Microsoft Teams. Mae dyfais addas a chysylltiad sefydlog i’r rhyngrwyd yn bwysig.

Ar ôl cwblhau’r sesiwn, bydd taflenni tasgau/gweithgareddau’n cael eu dosbarthu drwy e-bost. Rhaid llenwi’r rhain a’u dychwelyd i cookl1@caerffili.gov.uk. Dim ond wedyn y bydd tystysgrif y cwrs yn cael ei chyhoeddi.

Deilliannau

Ymhlith y pynciau mae:

  • Rhoi gwybod i ymarferwyr am arwyddion cam-drin ac esgeulustod mewn plant ac oedolion.
  • Dod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol.
  • Ennill gwybodaeth a dealltwriaeth glir o sut i adrodd am bryder a’r broses dan sylw.
  • Deall pwysigrwydd gwrando ar blant ac oedolion mewn perygl a gallu dilyn y broses sydd yn ei lle i adrodd am ddatgeliad.
  • Deall y ddyletswydd gyfreithiol sydd gan ymarferwyr gofal plant i adrodd.

Maes pwnc

Rheoleiddio

Cynulleidfa Darged

Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto)

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost. Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook