Dyfarniad Lefel 2 HABC mewn Asesu Risg
Disgrifiad
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd leol i ddarparu lle diogel i weithio, offer diogel a phobl ddiogel. Mae’r gofyniad hwn wedi’i gynnwys mewn nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth diogelwch gan gynnwys y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Er mwyn cyrraedd y safonau hyn, dylai asesiad risg addas a digonol gael ei wneud. Mae’r rhaglen hon wedi’i datblygu ar gyfer cylchoedd chwarae a meithrinfeydd i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth addas i gynorthwyo cynrychiolwyr i gynnal asesiadau risg cyffredinol fel sy’n ofynnol gan Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Crynodeb o’r rhaglen:
- Iechyd a diogelwch sylfaenol mewn cylchoedd chwarae a meithrinfeydd
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
- Rheoliadau Codi a Chario
- Iechyd a Diogelwch (Rheoliadau Cymorth Cyntaf)
- Rheoliadau Rhagofalon Tân (yn y gwaith)
- Rheoliadau Trydan yn y Gweithle
- Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus (RIDDOR)
- Iechyd a Diogelwch Cyffredinol ar gyfer Cylchoedd Chwarae
- Mannau Chwarae Awyr Agored
Deilliannau
Asesiadau Risg mewn Cylchoedd Chwarae a Meithrinfeydd:
- Cyflwyniad
- Manteision o wneud asesiadau risg
- Beth yw asesiad risg?
- Y drefn o ran gwneud asesiad risg
- Rheoli risgiau
- Enghreifftiau o ragweld risgiau
- Digwyddiadau tebygol
- Peryglon mewn cylchoedd chwarae a mesurau i’w rheoli
- Teithiau i ffermydd agored – risgiau a chyngor
- Llithro, baglu a chwympo – cyngor iechyd a diogelwch
- Arferion gwaith da i atal llithro, baglu a chwympo gyda rhestr wirio
- Cyfrifoldebau cyflogwyr
- Gweithdy ymarferol
Maes pwnc
Rheoleiddio
Cynulleidfa Darged
Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto)
Costau
Ddim yn berthnasol
Sesiynau
Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.
Dilynwch ni