Bydd y cwrs Diogelu Uwch hwn yn addysgu mwy am yr hyn y mae rôl Arweinydd Diogelu Penodedig yn ei olygu ac yn helpu i ddeall y broses ddiogelu yn fwy manwl. Mae’r cwrs yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ysgrifenedig ac ymarferion rhyngweithiol i helpu i adolygu a datblygu’r gweithdrefnau diogelu. Bydd hefyd yn sicrhau bod pob aelod o staff yn deall eu cyfrifoldebau tuag at ddiogelu plant, sut i adnabod arwyddion o gam-drin a sut i roi gwybod amdanyn nhw.
Mae’r cwrs yn cynnwys pynciau sy’n ymwneud â honiadau o gam-drin yn erbyn aelod o staff a sut i ddelio â’r rhain, deall deddfwriaeth a chanllawiau allweddol sy’n sail i bolisi ar gyfer diogelwch a lles plant, rolau i’w chwarae yn y broses amddiffyn plant aml-asiantaeth gan gynnwys cynadleddau achos, darparu adroddiadau ysgrifenedig a chwblhau ffurflenni Dyletswydd i Roi Gwybod.
Y rhai sydd mewn cysylltiad â phlant ac sydd â chyfrifoldeb diogelu terfynol am y ddarpariaeth.
Mae enghreifftiau n cynnwys:
Cwrs 2 Ddiwrnod
Bydd Diwrnod 1 yn cael ei gyflwyno trwy Teams.
Bydd Diwrnod 2 yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb yn un o adeiladau CBSC.
Rhaid I gyfranogwyr fynychu’r ddau sesiwn er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Ddim yn berthnasol
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
---|---|---|
10 a 13 Ionawr 2024 | Diwrnod 1: 4-9pm Diwrnod 2: 9am – 3pm |
Diwrnod 1: Microsoft Teams Diwrnod 2: St James ICC (CF83 3GT) |
15 a 22 Mawrth 2024 | Diwrnod 1: 9.30-2.30pm Diwrnod 2: 10am-4pm |
Diwrnod 1: Microsoft Teams Diwrnod 2: St James ICC (CF83 3GT) |
30 Ebrill a 4 Mai 2024 | Diwrnod 1: 5-9pm Diwrnod 2: 9am-3pm |
Diwrnod 1: Microsoft Teams Diwrnod 2: St James ICC (CF83 3GT) |
4 a 5 Mehefin 2024 | Diwrnod 1: 9.30-2.30pm Diwrnod 2: 9.30am-3.30pm |
Diwrnod 1: Microsoft Teams Diwrnod 2: Canolfan Plant Integredig Dechrau’n Deg Parc y Felin (CF83 3AH) |
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni