Awr ryngweithiol o hyfforddiant ar gyfer arferion creadigol, symud a meddylgarwch i gynorthwyo ymgysylltiad cadarnhaol, ymwybyddiaeth o’r hunan, pobl eraill a’r byd naturiol o’n cwmpas ni.
Mae Natasha yn athrawes Ioga â chymhwyster ‘British Wheel of Yoga’, gyda hyfforddiant arbenigol mewn Ioga i Blant a hefyd Ioga sy’n Sensitif i Drawma. Mae Natasha wedi bod yn dysgu ioga ers dros 20 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi cynnal dosbarthiadau Ioga i Blant yn breifat ac mewn lleoliadau ysgol, yn ogystal â gweithdai a hyfforddiant rhyngweithiol o fewn yr Awdurdod Addysg Lleol, Dechrau’n Deg a rhaglenni Lles o fewn y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol.
Mae dull addysgu Natasha yn addysgiadol ac yn addasu i’r lleoliad. Bydd hi’n symleiddio anatomi a ffisioleg yn natblygiad symud plant er mwyn galluogi’r gynulleidfa i ddeall pwysigrwydd yr arferion lles y byddan nhw wedyn yn eu rhannu gyda’r plant.
Bydd yr arferion sy’n cael eu rhannu’n hawdd i’w hailadrodd a’u hintegreiddio i fywyd bob dydd ac yn hygyrch i bawb.
Yn bwysicaf, mae’r sesiynau i gyd yn chwareus, yn gynhwysol ac yn grymuso’r derbynwyr i integreiddio’r arferion hyn i fywyd bob dydd.
O fewn y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn dod i ddeall datblygiad parhaus plant o’h hymwybyddiaeth o’u hunain, pobl eraill a’r amgylchedd.
Bydd y cyfranogwyr yn gadael â syniadau ac awgrymiadau am sut i greu gemau a gweithgareddau tymhorol i ddod â natur i mewn i’r lleoliad.
Rheoleiddio
Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto)
Ddim yn berthnasol
Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni