Gweithdy yn cael ei arwain gan yr ymgynghorwyr gofal plant, lle bydd cyfranogwyr yn archwilio gyda’r ymgynghorwyr y gwahanol ffyrdd i gynllunio ar gyfer datblygiad plant, yn unol â’r Cwricwlwm newydd.
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn archwilio sut mae cynllunio yn y blynyddoedd cynnar yn cwrdd ag anghenion unigolion o fewn eich lleoliad, gan gysylltu â gwybodaeth flaenorol, profiadau a diddordebau’r plentyn. Byddwn yn edrych ar sut gallwch chi a’ch tîm gefnogi eich plant i wneud cynnydd ac i sicrhau bod eich cynllunio yn adlewyrchu eich arsylwadau dydd i ddydd. Byddwn yn ystyried sut mae eich amgylchedd wedi ei osod a sut y darperir adnoddau ar gyfer profiadau dysgu penagored yn seiliedig ar chwarae sydd yn galluogi oedolion sydd yn galluogi dysgu i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu digymell a chyfleoedd i ymestyn dysgu.
Staff nas gynhelir sydd yn gweithio mewn lleoliadau nas gynhelir sydd wedi eu contractio i ddarparu Dechrau’n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir a Lleoedd â Chymorth.
Ddim yn berthnasol
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
---|---|---|
5 Gorffennaf 2024 | 9.30-12yp | In person TBC |
5 Gorffennaf 2024 | 12.30-3yp | In person TBC |
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni