Amcan y cwrs yw ail-ymweld a phrif egwyddorion o fewn Cwricwlwm i Gymru ac i rannu arfer dda. Fe fydd yr hyfforddiant yn digwydd yn lleoliad Tiddlers fel ein bod yn gallu profi a dysgu am ei siwrne i fewnosod yn llawn yr addysgeg yma. Byddwn hefyd yn archwilio’r ddogfen trefniadau asesu newydd ac yn datblygu fformat asesiad cychwynnol a fydd yn cymryd lle’r hen Broffil y Cyfnod Sylfaen.
Deall y pedwar diben, y llwybrau datblygu ac egwyddorion dilyniannau o fewn CIG. Datblygu dealltwriaeth bellach ar arsylwi ac asesiad a sut gallant gael eu defnyddio i fwydo i mewn i gynllunio yn y dyfodol.
Rheoleiddio
Arweinwyr / Dirprwyon sy’n ddarparwyr Dechrau’n Deg. Os ydych yn ddarparwr addysg, efallai yr hoffech ddanfon aelod amgen o staff.
Am ddim (un aelod o staff o bob lleoliad)
Dyddiad | Amser | Lleoliad |
---|---|---|
25 Medi 2023 | 12.30 – 5.00 yp | Tiddlers Wraparound, Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern. CF83 8FL |
26 Medi 2023 | 12.30 – 5.00 yp | Tiddlers Wraparound, Ysgol Gynradd Tyn-y-Wern. CF83 8FL |
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni