Cymorth Cyntaf Pediatrig

Manylion y cwrs a sut i gadw lle

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Cymorth Cyntaf Pediatrig

Disgrifiad

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal plant – o warchodwyr plant i weithwyr meithrinfeydd. Mae’r hyfforddiant yn bodloni’r safonau cenedlaethol gofynnol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig. Dros 12 awr, bydd ymgeiswyr yn cael lefel uchel o hyfforddiant i’w galluogi i ddelio ag argyfyngau cymorth cyntaf sy’n effeithio ar fabanod a phlant.

Bydd y cwrs yn cymryd rhan mewn dau gam. Y 9 awr gyntaf fydd yr elfen theori a bydd angen eu cyflawni ar-lein. Rhaid cwblhau hwn o leiaf 48 awr cyn yr ail gam sy’n elfen ymarferol 6 awr o hyd wyneb yn wyneb. Rhaid cwblhau’r ddwy elfen i ennill y cymhwyster a’r dystysgrif. Mae’r dyddiad sy’n cael eu hysbysu ar gyfer yr elfen ymarferol, felly, bydd yr elfen theori yn cychwyn cyn y dyddiad hwn.

Deilliannau

Ymhlith y pynciau mae:

  • Delio â rhywun sydd wedi’i anafu ac sy’n anymwybodol
  • Dadebru (CPR)
  • Delio â rhywun sydd wedi’i anafu ac sy’n tagu
  • Clwyfau a gwaedu
  • Sioc
  • Anafiadau i’r pen
  • Salwch ac anafiadau sy’n gysylltiedig â babanod a phlant

Maes pwnc

Rheoleiddio

Cynulleidfa Darged

Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto).

Costau

£15

Codir tâl am y cwrs hwn a rhaid ei dderbyn o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y cwrs. Rhaid i bob taliad gael ei wneud gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein. Ni fydd sieciau, arian parod, na throsglwyddiadau banc yn bosibl. Byddwn ni’n anfon e-bost ar wahân atoch chi yn gofyn am hyn.

Sesiynau ymarferol

Dyddiad Amser Lleoliad
18 Mai 2024 9.30am – 4pm Canolfan Arloesedd a Thechnoleg Tredomen (CF82 7FN)
22 Mehefin 2024 9.30am – 4pm Canolfan Arloesedd a Thechnoleg Tredomen (CF82 7FN)
27 Gorffennaf 2024 9.30am – 4pm Canolfan Arloesedd a Thechnoleg Tredomen (CF82 7FN)

Sylwch fod gan Gymorth Cyntaf Pediatrig ddau gam i’r hyfforddiant:

  • Theori – bydd angen cwblhau hwn cyn y gallwch chi wneud y sesiwn ymarferol a bydd yn cymryd tua 9 awr i’w gwblhau. Anfonir y manylion am hyn atoch trwy e-bost bythefnos cyn y sesiwn ymarfer.
  • Ymarferol – bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn bersonol ar y dyddiad rydych chi wedi’i ddewis uchod

Rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n gallu neilltuo amser i gwblhau dau gam yr hyfforddiant.

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook