Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur Caerffili

Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur Caerffili

Mae Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur Caerffili yn cydnabod darparu byrbrydau o ansawdd uchel mewn lleoliadau gofal plant a’i ddathlu. Mae’r wobr hon ar gael i feithrinfeydd dydd, grwpiau Dechrau’n Deg, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant a chlybiau y tu allan i’r ysgol. Er mwyn cael y wobr, rhaid i’r lleoliadau hyn ddarparu byrbrydau a diodydd iach, gan gadw at ganllawiau hylendid a’r amgylchedd bwyta. Os yw grŵp yn bodloni’r meini prawf hyn a bod ganddo aelod o staff wedi’i hyfforddi mewn bwyd a maeth, gallan nhw hefyd ennill y wobr fawreddog ‘Aur Plws’.

Mae ennill y wobr hon yn dangos ymrwymiad gan leoliadau gofal plant i gynorthwyo plant, teuluoedd a chymunedau i wneud dewisiadau bwyd iach. Mae’r wobr yn cael ei goruchwylio gan Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd a’i chynorthwyo gan grŵp gweithredu amlddisgyblaethol, sy’n cyd-fynd â Chynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae’r wobr yn annog ymagwedd gyfannol at fyrbrydau iach, gan gynnwys datblygu polisi bwyd a chreu amgylchedd bwyta cadarnhaol gydag arferion hylendid bwyd da. Mae lleoliadau gofal plant yn cael eu hannog i ddarparu byrbrydau a diodydd iach wedi’u hargymell. Mae diet cytbwys yn ystod plentyndod a’r glasoed cynnar yn hanfodol ar gyfer datblygu, cynnal pwysau iach a lles cyffredinol. Mae ymchwil yn dangos bod patrymau bwyta wedi’u sefydlu mewn bywyd cynnar yn aml yn parhau wrth ddod yn oedolion, gan amlygu pwysigrwydd hybu arferion iach o oedran cynnar.

Mae’r bwyd a diod sydd ar gael mewn lleoliadau gofal plant yn chwarae rhan hanfodol o ran iechyd plant a gall helpu sefydlu arferion bwyta cadarnhaol. Mae ymarferwyr gofal plant a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar yn cyfrannu’n sylweddol at les plant sy’n tyfu.

Drwy gymryd rhan yng Ngwobr Byrbrydau Iach Safon Aur Caerffili, mae lleoliad yn profi ei ymrwymiad i weithredu argymhellion o Ganllawiau Arfer Gorau Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am gynorthwyo plant i gynnal pwysau iach, ewch i: Hafan | Pob Plentyn

Lleoliadau gofal plant sy’n cymryd rhan

Mae’n bleser gennym ni gyhoeddi, ers lansio’r Wobr Byrbrydau Iach Safonol Aur newydd ym mis Gorffennaf 2021, bod 31 o leoliadau gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi llwyddo i fodloni’r meini prawf ac wedi cyflawni’r wobr.

  • 1st Steps Day Care – Aberbargod
  • 1st Steps Day Care Ltd – Pontlottyn
  • Britannia Day Nursery
  • Brighter Minds Childcare Ltd
  • Brighter Minds Tŷ Isaf
  • Cefn Fforest Rising Stars Childcare Ltd
  • Cwtsh Nursery Limited
  • Cylch Meithrin Nelson
  • Dechrau’n Deg Abertyswg
  • Dechrau’n Deg Coed Duon
  • Dechrau’n Deg Bryn Awel
  • Dechrau’n Deg Gelligaer
  • Dechrau’n Deg Graig-y-rhaca
  • Dechrau’n Deg Hengoed
  • Dechrau’n Deg Cefn-y-pant
  • Dechrau’n Deg Parc-y-felyn
  • Dechrau’n Deg Penllwyn
  • Dechrau’n Deg Penyrheol
  • Dechrau’n Deg Treffilip
  • Dechrau’n Deg Trinant
  • Dechrau’n Deg Tŷ-coch
  • Little Acorns Preschool Ltd
  • Little Einsteins Academy Limited
  • Little Peeps Playgroup
  • Little Unicorns Day Nursery
  • Mini Miners Day Nursery
  • Playworks Early Days Nursery Bedwas
  • Puddleducks Playgroup @ Plas Y Felin
  • St Gwladys Sunbeams
  • The Childrens Space – Tredegar Newydd
  • Tiddlers
 

Dilynwch ni

Facebook