Addysg y blynyddoedd cynnar a dechrau ysgol

Addysg y blynyddoedd cynnar a dechrau ysgol

Mae addysg y blynyddoedd cynnar ran-amser, wedi’i hariannu, ar gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd plentyn yn 3 oed. Mae hyn weithiau yn cael ei alw’n ‘Codi’n Dair’, ‘Addysg y Blynyddoedd Cynnar’ neu ‘Ddysgu Sylfaen’.

Mae’r cam hwn yn hanfodol ym mywyd eich plentyn, gan osod y sylfaen ar gyfer ei ddysgu, ei dwf corfforol a’i ddatblygiad emosiynol yn y dyfodol. Mae addysg feithrin yn rhan annatod o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am Addysg y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru, a sut mae’n cael ei darparu, ar gael yn y canllaw hwn sydd wedi’i gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru:

Y Cwricwlwm i Gymru – Addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: Canllaw i rieni a gofalwyr

Amserlen mynediad

Mae’r tabl isod yn dangos pryd y bydd Addysg y Blynyddoedd Cynnar ar gael i’ch plentyn.

Pen-blwydd y plentyn yn 3 oed Pryd all fy mhlentyn cael mynediad i’w le Addysg Blynyddoedd Cynnar?
Rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr (sy’n cynnwys tymor y gwanwyn a thymor yr haf)
Rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill (sy’n cynnwys tymor yr haf yn unig)
Rhwng 1 Ebrill a 31 Awst Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi

Ble i gael mynediad at Addysg y Blynyddoedd Cynnar

Mae gan eich plentyn hawl i gael o leiaf 10 awr yr wythnos o Addysg y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r addysg hon yn cael ei chynnig mewn amrywiaeth o leoliadau gofal plant wedi’u hariannu, gan gynnwys grwpiau chwarae, cylchoedd meithrin, meithrinfeydd dydd yn ogystal ag ysgolion. Yn ystod y flwyddyn academaidd pan fydd pen-blwydd eich plentyn yn 4 oed, mae Addysg y Blynyddoedd Cynnar ar gael mewn lleoliad ysgol yn unig.

Sut i wneud cais

Rhaid i bob cais am leoedd Addysg y Blynyddoedd Cynnar gael eu gwneud ar wefan Derbyniadau i Ysgolion Caerffili. Bydd angen i chi greu cyfrif ar y Porth Rhieni. Ar ôl creu cyfrif, gallwch chi ddefnyddio’r un cyfrif ar gyfer pob plentyn yn eich teulu ac ar gyfer unrhyw geisiadau am le mewn ysgol yn y dyfodol. Bydd y broses ymgeisio yn agor ar ddechrau mis Medi ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Nodiadau pwysig

  • Os byddwch chi’n dewis anfon eich plentyn at ddarparwr gofal plant cymeradwy yn hytrach na meithrinfa mewn ysgol, trafodwch hyn ag arweinydd y ddarpariaeth gofal plant yn gyntaf i sicrhau bod lle ar gael i’ch plentyn.
  • Os yw’ch plentyn yn mynychu lleoliad Addysg y Blynyddoedd Cynnar mewn ysgol ym mis Ionawr neu fis Ebrill, nid yw hyn yn golygu y bydd yn cael mynd i’r dosbarth meithrin yn yr ysgol honno yn awtomatig ym mis Medi yn y flwyddyn academaidd pan fydd ei ben-blwydd yn 4 oed. Bydd angen i chi wneud cais newydd am le mewn dosbarth meithrin a bydd y meini prawf derbyn i ysgolion arferol yn berthnasol. Gwiriwch pa ysgolion sydd yn eich dalgylch chi.

Cynnig Gofal Plant Cymru

O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, fe allech chi hawlio hyd at 30 awr o addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.  Nod y cynllun yw gwneud bywyd ychydig yn haws i rieni neu ofalyddion trwy ddarparu cymorth o ran costau gofal plant.

Gallai plant 3-4 oed cymwys fod â hawl i ofal plant sydd wedi’i ariannu gan y llywodraeth o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed nes eu bod mewn addysg amser llawn.

Mae hyn yn golygu, yn ogystal â 10 awr o Addysg y Blynyddoedd Cynnar rhan-amser, gallai eich plentyn hefyd fod â hawl i 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol, a 30 awr yn ystod gwyliau ysgol.

Am ragor o fanylion a gwybodaeth am sut i wneud cais, ewch i’r adran Cynnig Gofal Plant Cymru.

 

Dilynwch ni

Facebook