Mae Learning Language and Loving It yn rhaglen sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n rhoi strategaethau ymarferol i chi i helpu pob plentyn yn eich lleoliad i feithrin sgiliau iaith a chymdeithasol, ni waeth beth yw eu harddulliau dysgu a chyfathrebu. Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan Therapyddion Iaith a Lleferydd ardystiedig Hanen sy’n gweithio o fewn tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili.
Mae’r rhaglen yn rhoi strategaethau ymarferol i chi y gallwch chi eu defnyddio yn ystod gweithgareddau ac arferion bob dydd. Mae pob strategaeth wedi’i chynllunio i ennyn a chynnal diddordeb y plant, gan wneud iaith a dysgu yn rhan hwyliog a naturiol o’u diwrnod.
Mae’r rhaglen yn gymysgedd o sesiynau gwybodaeth grŵp rhithwir a sesiynau 1:1 wyneb yn wyneb yn eich lleoliad, sy’n rhoi cyfle i chi ymarfer a thrafod strategaethau gyda’r hyfforddwr.
Mae defnyddio’r dull Learning Language and Loving It yn sicrhau bod pob plentyn yn eich lleoliad yn cael y cyfle gorau i ddatblygu ei iaith. Mae tystiolaeth dda bod iaith yn hanfodol ar gyfer lles a chanlyniadau bywyd yn ddiweddarach. Mae strategaethau Learning Language and Loving It yn fuddiol i bob plentyn yn eich lleoliad, gan gynnwys:
I fynychu’r cwrs, bydd angen:
Byddwch yn ymwybodol y bydd yr ymweliadau â lleoliadau yn gofyn i chi ryngweithio â phlant a myfyrio ar hyn fel rhan o’ch dysgu. Eich cyfrifoldeb chi fydd sefydlu caniatâd i’r plant gael eu recordio at ddibenion hyfforddi staff. Nid yw recordiadau’n cael eu cadw ac maen nhw’n cael eu dileu cyn diwedd yr ymweliad 1:1.
Mae’r Rhaglen Learning Language and Loving It yn rhoi strategaethau ymarferol, sy’n seiliedig ar ymchwil i chi er mwyn:
Bydd pob lleoliad yn derbyn llyfr gwaith sy’n berthnasol i’r rhaglen.
Arweinwyr cynhwysiant a chynghorwyr gofal plant.
Ddim yn berthnasol
Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni