Babi Actif

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Babi Actif

Disgrifiad

Mae’r hyfforddiant Babi Actif a Chi, sy’n ddwy awr o hyd, wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’n plant ieuengaf. Mae’n canolbwyntio ar symud a lles plant rhwng 0 ac 18 mis oed gan edrych ar ddatblygiad a ffyrdd y gallwn ni gynorthwyo a meithrin nid yn unig y babanod yn ein gofal, ond hefyd weithgaredd corfforol a lles yr oedolion sy’n gofalu amdanyn nhw ac yn eu haddysgu nhw.

Bydd y cwrs yn cymryd dwy awr, wyneb yn wyneb.

Deilliannau

Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • Meithrin datblygiad corfforol
  • Canllawiau gweithgaredd corfforol
  • Chwarae ar y llawr (chwarae ar y bol, yr ochr, a’r cefn)
  • Diddordeb yn y corff a symud
  • Y synhwyrau
  • Croesi’r llinell ganol
  • Siarad trwy symud
  • Ysgogiad isel, symud a gorffwys.

Maes pwnc

(Y Cynllun Blynyddoedd Cynnar Iach) Llythrennedd Corfforol

Cynulleidfa Darged

Pob Gweithiwr Gofal Plant sy’n gweithio gyda phlant rhwng 0 ac 18 mis oed.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook