Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (bellach yr Hwb y Blynyddoedd Cynnar)

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn rhan o Hwb y Blynyddoedd Cynnar a’r prif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant neu aelod o’r teulu sydd angen gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Mae staff Hwb y Blynyddoedd Cynnar wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor diduedd am ddim i bob rhiant/gofalwr plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw. P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod rhagor am addysg y blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal, neu os oes angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch i fod yn rhiant da, mae digon o help ar gael.

Nid yw gwefan Dewis ar gael ar hyn o bryd. Mae ein darparwyr gwasanaeth yn gweithio i adfer mynediad cyn gynted â phosibl. Os oes angen gwybodaeth arnoch am ddarparwyr gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, cysylltwch â’r Hwb Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu anfonwch e-bost at hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk.

Dilynwch ni

Facebook