Mae’r cwrs codi a chario hwn wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion staff sy’n gweithio mewn lleoliad y Blynyddoedd Cynnar. Mae wedi’i gynllunio gan Ymarferwyr Iechyd a Diogelwch a bydd yn cael ei gyflwyno ganddyn nhw am eu bod nhw’n deall anghenion y grŵp staff hwn yn llawn
I raddau helaeth, mae’r cwrs hwn yn ymarferol, felly, dylai pawb sy’n gwneud y cwrs fod yn ymwybodol o sut maen nhw’n gwisgo er mwyn cymryd rhan yn y cwrs yn ddiogel. Dylech chi wisgo esgidiau isel, caeedig (e.e. esgidiau ymarfer) a dillad sy’n gyfforddus ac nad ydyn nhw’n cyfyngu ar symudiadau (osgowch wisgo ffrogiau a sgertiau). Os oes gennych chi unrhyw anhawster a allai eich atal chi rhag cyflawni agweddau corfforol y cwrs, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n rhoi gwybod i’r Hyfforddwr ar y diwrnod.
Bydd y rhai sy’n gwneud y cwrs yn dysgu sut i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel wrth symud gwrthrychau bob dydd a hefyd wrth gynorthwyo plant i symud. Mae’r cwrs yn para am un diwrnod a bydd yn cael ei gynnal mewn lleoliad gofal plant llawn offer.
Rheoleiddio
Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant
Ddim yn berthnasol
Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.
Dilynwch ni