Mae tîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymyrraeth gynnar i rieni, gofalyddion, darpar rieni, a phlant ifanc rhwng 0 a 7 oed sy’n byw ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Mae gan ein gwasanaeth dri phrif dîm, sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar, Tîm Ymyrraeth Cynnar, a’r Tîm Gofal Plant.
Hwb y Blynyddoedd Cynnar, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, ac sy’n brif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant neu aelod o’r teulu y mae arno angen gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae ein swyddogion yn Hwb y Blynyddoedd Cynnar wrth law i wrando ar eich sefyllfa, ac i’ch helpu i gyrchu’r gwasanaethau a fydd yn eich cynorthwyo yn y modd gorau.
Gall yr Hwb gynnig cymorth mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys y canlynol:
Os oes arnoch angen cyngor a chymorth, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r Tîm Ymyrraeth yn y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill i ddarparu cymorth arbenigol wedi’i deilwra i deuluoedd i wella eu canlyniadau a chyrraedd eu nodau a’u dyheadau. Mae’n gwneud hyn trwy ymgysylltu mewn modd cadarnhaol, darganfod mwy am eich cryfderau, archwilio eich anghenion, a’ch helpu i nodi’r pethau sy’n bwysig i chi.
Gall ymyrraeth gynnar ddigwydd ar ffurfiau gwahanol, o raglenni ymweld â chartrefi i gynorthwyo rhieni agored i niwed, i raglenni mewn ysgolion i wella sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant.
Mae’r Tîm Ymyrraeth yn y Blynyddoedd Cynnar yn darparu cyngor a chymorth yn y meysydd allweddol canlynol:
Os oes arnoch angen cymorth yn unrhyw un o’r meysydd hyn, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r Tîm Gofal Plant yn gweithio i sicrhau bod yna leoedd addysg, lleoedd gofal plant a chyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar i blant a’u teuluoedd ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Mae gan y tîm gyfrifoldeb statudol i asesu digonolrwydd gofal plant a chyfleoedd chwarae, fel ei gilydd, ac mae’n gweithio gyda darparwyr a gwasanaethau lleol i helpu i ateb y galw, i leihau bylchau ac i wella ansawdd yn barhaus.
Ewch i’n tudalennau gofal plant i gael rhagor o wybodaeth, neu cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.
Dilynwch ni