Ymyrraeth yn y Blynyddoedd Cynnar ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

Ymyrraeth yn y Blynyddoedd Cynnar ac Anghenion Dysgu Ychwanegol

Nod Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yw gwneud darpariaeth addysg yn fwy cynhwysol i holl blant Cymru drwy ddarparu’r system statudol ar gyfer diwallu anghenion plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae adran 2 o’r Ddeddf yn diffinio’r term ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (ADY):

2 Anghenion Dysgu Ychwanegol

(1) Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(2) Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—

(a) os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu

(b) os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

(3) Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

(4) Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd

Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn gweithio gyda theuluoedd, timau ymyrraeth gynnar, gweithwyr iechyd proffesiynol, lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig, ysgolion, a darpariaethau cymunedol i weld sut y gallwn gefnogi plant ag anghenion sy’n dod i’r amlwg orau.

Mae ein timau ymyrraeth gynnar yn gweithio mewn cymunedau gyda theuluoedd ar y cyfle cyntaf i gefnogi datblygiad iaith cynnar a datblygiad plant trwy sesiynau teulu unigol ar-lein neu wyneb yn wyneb yn ogystal â sesiynau grŵp gan gynnwys grwpiau iaith a grwpiau anghenion cyfathrebu cymdeithasol.

Mae ein tîm gofal plant yn gweithio gyda lleoliadau gofal plant a chwarae cofrestredig i ddatblygu darpariaeth gynhwysol, gan gynnwys arsylwi plant, strategaethau modelu rôl yn y lleoliad, darparu hyfforddiant i dimau staff, yn ogystal â darparu adnoddau sydd eu hangen ar y plentyn i gael mynediad i’r amgylchedd.

Rydyn ni eisiau i bob plentyn ddod yn ddysgwr annibynnol sy’n hyderus ac yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu hwyl. Fodd bynnag, mae rhai plant yn cael trafferth gyda hyn ac mae angen cymorth mwy targedig arnyn nhw i’w helpu nhw i ymsefydlu a datblygu eu sgiliau annibyniaeth. Mae Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg y Blynyddoedd Cynnar yn nodi plant a allai fod angen y lefel ychwanegol hon o gymorth, uwchlaw’r ddarpariaeth gyffredinol.

Weithiau mae cymorth i gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant wedi’i ariannu yn dibynnu ar gyllid neu sefyllfa’r teulu. Gwiriwch y tudalennau gwe am ragor o wybodaeth a chysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch.

Mae llawer o gymunedau yn sefydlu eu grwpiau lleol eu hunain i gefnogi plant a chwarae yn y gymuned. Gallwch ddarganfod beth sydd ar gael trwy ddefnyddio Dewis. Yn ystod gwyliau’r haf hefyd cynhelir sesiynau Bwyd a Hwyl mewn ysgolion a Diwrnodau Chwarae i’r Teulu yn y Parc sy’n sesiynau cynhwysol ac sy’n gallu cynnig cyfleoedd chwarae gwych i blant a theuluoedd.

 

Dilynwch ni

Facebook