Mae pob plentyn yn dysgu sgiliau ar adegau gwahanol. Mae angen amser arnyn nhw i ddysgu, chwarae a thyfu trwy weithgareddau hwyliog.
Ewch i’n tudalen we ni, Awgrymiadau ynghylch rhianta , i gael gwybodaeth a chyngor ar rai o’r pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’ch plentyn. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i rai o’r atebion i’ch cwestiynau ar y tudalennau hyn.
Pan fydd eich plentyn yn 15 mis oed, bydd y tîm ymweliadau iechyd yn asesu datblygiad eich plentyn.
Am wybodaeth am ddatblygiad plant, ewch i wefan Aneurin Bevan – Iachach Gyda’n Gilydd.
Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn ar unrhyw adeg, gallwch chi gysylltu â’ch ymwelydd iechyd. Gallwch chi hefyd gysylltu â ni yn nhîm y Blynyddoedd Cynnar am gymorth. Llenwch ein ffurflen ar-lein i ofyn am gymorth.
Mae’r Rhaglen Rhieni fel Addysgwyr Cyntaf wedi’i chynllunio ar gyfer plant 0-3 oed ac mae’n rhoi cymorth i chi a’ch plentyn i ddatblygu sgiliau hanfodol. Mae amrywiaeth o weithgareddau sy’n annog twf a datblygiad eich plentyn. Mae modd cyflwyno sesiynau mewn grwpiau bach neu eu teilwra i deuluoedd unigol.
Mae amrywiaeth o raglenni rhianta ar gael wyneb yn wyneb ac ar-lein. Am fanylion llawn, ewch i’n tudalen rhaglenni a chyrsiau rhianta.
Mae datblygu sgiliau lleferydd ac iaith yn sgiliau bywyd pwysig. Mae angen i’ch plentyn allu cyfathrebu er mwyn dweud wrthym ni beth sydd ei angen arno, gallu dysgu yn yr ysgol, cymdeithasu â theulu a chwarae gyda ffrindiau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cymorth i blant ddysgu siarad a chyfathrebu.
Mae dysgu trwy chwarae yn bwysig a gall helpu plant ifanc i fod yn barod ar gyfer yr ysgol, annog eu dychymyg a helpu gyda’u datblygiad. Os nad yw eich plentyn yn cyrraedd ei gerrig milltir datblygiadol, ac mae angen mwy na dysgu sgiliau cyfathrebu, gall y tîm Ymuno a Chwarae weithio gyda chi a’ch plentyn cyn iddo ddechrau gofal plant neu addysg y Blynyddoedd Cynnar.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Ddatblygiad Plant yn rhaglen ymyrraeth yn y cartref gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer plant cyn oed ysgol sydd ag anghenion corfforol, meddygol a datblygiadol cymhleth. Mae plant yn dueddol o gael eu hatgyfeirio cyn 1 oed at Gynghorydd Datblygiad Plant sy’n gweithio gyda rhieni a gofalwyr i sefydlu set o weithgareddau cartref sy’n hybu datblygiad y plentyn, yn aml yn ôl cyfarwyddyd tîm iechyd arbenigol y plentyn (ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, therapydd lleferydd ac iaith neu bediatregydd), ac yn ymweld â’r teulu’n rheolaidd i fonitro cynnydd. Fel arfer, mae Ymwelydd Iechyd neu Bediatregydd yn trefnu Gwasanaeth Cynghori ar Ddatblygiad Plant. I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynghori ar Ddatblygiad Plant, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Iachach Gyda’n Gilydd.
Lleoedd a Gynorthwyir: Os yw eich plentyn wedi cael cymorth gan y gwasanaeth Ymuno a Chwarae neu’r gwasanaeth Cynghori ar Ddatblygiad Plant, efallai y bydd yn gymwys i gael lle gofal plant rhan-amser wedi’i ariannu cyn iddo ddechrau Addysg y Blynyddoedd Cynnar. I gael gwybod beth yw’r ffordd orau o gynorthwyo’ch plentyn i ddatblygu a ffynnu, gallwn ni weld sut mae’ch plentyn yn ymgartrefu yn y lleoliad a sut mae’n chwarae gyda phlant eraill. Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn gweithio gyda lleoliadau gofal plant cymeradwy. Maen nhw’n cynorthwyo profiadau o ansawdd uchel i bob plentyn gan gynnwys mynediad at hyfforddiant ar gyfer staff gofal plant, profiadau chwarae a dysgu o safon, adnoddau o safon, offer arbenigol os oes angen a chyngor gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’ch plentyn.
Rydyn ni eisiau i bob plentyn ddod yn ddysgwr annibynnol. Rydyn ni eisiau i bob plentyn fod yn hyderus a ffynnu mewn amgylchedd dysgu llawn hwyl. Bydd teuluoedd yn gallu rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant, gan gael cymorth os oes angen.
Dilynwch ni