Darparu gofal plant cynhwysol

Darparu gofal plant cynhwysol

Mae lleoliadau gofal plant ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i ddarparu amgylcheddau cynhwysol ar gyfer y plant yn eu gofal.

Mae darparwyr gofal plant yn cael hyfforddiant datblygiad plant ac yn gwybod sut i greu amgylchedd dysgu cyffrous ac ysgogol.

Rydyn ni eisiau i bob plentyn ddod yn ddysgwr annibynnol sy’n gallu ymgysylltu’n hyderus â’r amgylchedd dysgu wrth gael hwyl. Dylai pob darparwr gofal plant ddarparu gofal plant cyffredinol o ansawdd da i bob plentyn a chynnig rhai gweithgareddau dysgu wedi’u targedu ar gyfer grwpiau bach neu unigolion i helpu gyda’u datblygiad.

Fodd bynnag, mae rhai plant yn cael trafferth gyda’r amgylchedd dysgu ac mae angen cymorth mwy targedig arnyn nhw i’w helpu nhw i ymsefydlu a datblygu eu sgiliau annibyniaeth.

Rôl yr Arweinydd Cynhwysiant

Dylai fod gan bob lleoliad Arweinydd Cynhwysiant sydd â’r cyfrifoldebau canlynol:

  • cynorthwyo plant ag anghenion sy’n dod i’r amlwg yn y lleoliad gofal plant a sicrhau bod staff sy’n gweithio gyda’r plant yn defnyddio’r strategaethau cywir i’w helpu nhw i ddysgu,
  • gweithio gyda’r Cynghorwyr Gofal Plant ac arbenigwyr eraill yn Nhîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili i sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant a’r strategaethau cywir i gynorthwyo’r plant yn eu gofal,
  • llenwi’r Proffil Un Dudalen gyda’r rhiant. Mae’r ddogfen hon yn esbonio’n glir i’r lleoliad gofal plant yr hyn y mae’r plentyn yn ei hoffi, yr hyn y gall ei wneud, yr hyn y mae angen ychydig o gymorth arno yn ei gylch, yr hyn y gall y lleoliad gofal plant ei wneud i helpu ac mae’n nodi targedau i gynorthwyo profiad dysgu’r plentyn,
  • gweithio gyda’r Cynghorydd Gofal Plant a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’r plentyn i sicrhau bod pawb yn gweithio ar yr un targedau ac yn rhannu cynnydd sy’n digwydd.

Gwarchodwr plant, sy’n aml yn gweithio ar ei ben ei hun, yw’r person sy’n gyfrifol am wneud ei leoliad yn gynhwysol, gyda chymorth gan y Tîm Cynghori lle bo angen.

Cymorth Cynghori

Os oes pryderon gan leoliad yn ymwneud â’r cynnydd y mae plentyn yn ei wneud, neu os hoffai staff gael cyngor ynghylch datblygiad plentyn, gallan nhw wneud cais am gymorth gan y Tîm Cynghori. Mae hwn yn dîm o weithwyr proffesiynol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y blynyddoedd cynnar. Bydd y Cynghorwyr yn ymweld â lleoliad gofal plant i arsylwi ar blentyn a chynnig strategaethau cymorth i helpu symud y dysgu yn ei flaen.

Os yw’r lleoliad gofal plant a’r Cynghorydd yn teimlo bod angen cymorth ychwanegol ar y plentyn, uwchlaw’r ddarpariaeth gyffredinol, gall hyn gael ei drafod ym Mhanel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r panel hwn yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn i drafod a oes angen cymorth ychwanegol, hyfforddiant neu gyfarpar arbenigol ar leoliad gofal plant, i gynorthwyo datblygiad plentyn.

Darllen rhagor am y Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg

 

Dilynwch ni

Facebook