Lluniwyd Canllawiau Atal a Rheoli Heintiau (ARhH) Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant yng Nghymru am y tro cyntaf gan y Nyrsys Diogelu Iechyd yn 2014 a’u hadolygu yn 2019 i gymryd lle dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru ‘Gwyliwch y germau! Canllawiau ynghylch rheoli haint ar gyfer meithrinfeydd, grwpiau chwarae a sefydliadau gofal plant eraill’ (2006). Roedd y canllawiau ar gyfer lleoliadau gofal plant oedd yn darparu gofal dydd i blant iau na phump oed. Er mai meithrinfeydd oedd y brif gynulleidfa, gallai gwarchodwyr plant, grwpiau chwarae a lleoliadau gofal plant eraill addasu’r canllawiau hefyd at eu defnydd penodol eu hunain.
Mae’r hyfforddiant hwn yn darparu canllawiau ar atal a rheoli heintiau i staff sy’n gweithio mewn meithrinfeydd, canolfannau gofal dydd, cylchoedd chwarae, crèches, canolfannau i blant, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau. Dylai’r canllawiau hyn hefyd gael eu defnyddio gan staff sy’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd awyr agored i blant. Mae gan staff sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru ‘ddyletswydd gofal’ i ddarparu amgylchedd diogel i blant. Byddem ni’n argymell eich bod chi’n dod yn gyfarwydd â’r canllawiau eto cyn mynychu’r hyfforddiant, a pharatoi cwestiynau o flaen llaw ar gyfer y sesiwn holi ac ateb yn ystod yr hyfforddiant.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gofal plant – gweithwyr meithrinfeydd dydd, gofal cofleidiol/cylchoedd chwarae a chlybiau ar ôl ysgol. Mae’r hyfforddiant yn cael ei argymell er mwyn gwella eich gwybodaeth am Atal Heintiau a’ch cynorthwyo chi i fodloni’r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig. Noder bydd cyfle yn y dyfodol am gwrs penodol i warchodwyr plant, gan fod y cwrs hwn wedi’i anelu’n fwy tuag at ddarpariaeth mewn lleoliadau.
Bydd y cwrs yn cymryd dwy awr ar Microsoft Teams.
Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys:
Pob gweithwyr gofal plant heblaw am warchodwyr plant
Dim tâl
Ddim yn berthnasol
Dilynwch ni