Cymorth i blant a theuluoedd

Gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd

Cymorth i blant a theuluoedd

Mae bod yn rhiant yn gallu dod â llawenydd a hapusrwydd yn ogystal â heriau, ar adegau.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi rhieni, gofalwyr, a theuluoedd ehangach fel yr addysgwyr plant cyntaf a phwysicaf. Mae hyn yn ganolog i’r holl wasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Mae ein tîm ni yma i weithio gyda theuluoedd i’w helpu nhw wedyn i gyflawni ‘Beth sy’n Bwysig’ iddyn nhw.

Rydyn ni’n darparu cymorth 1:1 pwrpasol i deuluoedd yn ogystal â rhaglenni grŵp. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i wella sgiliau rhianta cadarnhaol, cryfhau perthnasoedd a meithrin lles a gwydnwch.  Gallwn ni hefyd hybu dealltwriaeth o ddatblygiad plant. Bydd y ffocws ar Beth sy’n Bwysig i chi a’ch teulu chi.

Yn yr adran hon

Dilynwch ni

Facebook