Bydd Elizabeth Jarman yn herio ac yn ysbrydoli cydweithwyr i gymryd rhan yn y broses o ddatblygu amgylchedd ystyriol ac ymatebol. Gan ddefnyddio dull astudiaeth achos a llawer o ddelweddau perthnasol sydd wedi cael eu dylunio ar gyfer y grŵp penodol y bydd hi’n gweithio ag ef (darpariaeth pacio i ffwrdd / meithrin / cartref ac ati), bydd llinynnau allweddol yr ymchwil yn llyfr Elizabeth, “The Communication Friendly Spaces Approach”, yn cael eu rhannu.
Bydd taflen a thasg datblygu (mewn llyfryn a fydd yn cael ei ddarparu) yn cael eu rhoi i gyfranogwyr iddyn nhw gael dechrau. Bydd disgwyl i gyfranogwyr gwblhau’r dasg ddatblygu sy’n gysylltiedig â mewnbwn Elizabeth rhwng y sesiynau a dychwelyd i’r ail sesiwn yn barod i rannu eu datblygiad. Dylai lluniau o ddatblygiad yn cael eu he-bostio at Elizabeth cyn yr ail sesiwn a bydd y rhain yn cael eu hymgorffori yn y cyflwyniadau pwrpasol. Byddai dysgu allweddol wedyn yn cael ei amlygu yn yr ail sesiwn trwy drafodaeth ac yna’n cael ei ddilyn gan ragor o fewnbwn.
Bydd cyfranogwyr yn deall trwy ddangos datblygiad eu lleoliad eu hunain (gyda chymorth Elizabeth Jarman) sut mae’r egwyddorion sylfaenol wedi cael eu defnyddio’n ymarferol, gan archwilio y ffyrdd y mae ymarferwyr wedi arsylwi ar y plant er mwyn deall y cyd-destunau dysgu sy’n well gan y plant er mwyn gwneud newidiadau gwybodus, hyblyg, gyda chost isel sy’n cael effaith gadarnhaol.
Er enghraifft:
Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto)
Ddim yn berthnasol
Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni