Mae gan bob plentyn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili Ymwelydd Iechyd penodol. Nyrsys hyfforddedig yw Ymwelwyr Iechyd sy’n gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar i gynorthwyo plant o’r cyfnod trosglwyddo o’ch bydwraig i flynyddoedd cyntaf yr ysgol (0-7 oed).
Cynigir amrywiaeth o raglenni cymorth i bob plentyn a theulu, a elwir yn rhaglen Plant Iach Cymru. Mae llawer o wybodaeth am hyn, gan gynnwys beth i’w ddisgwyl gan eich tîm ymweliadau iechyd, i’w chael ar wefan Ymwelwyr Iechyd: Iachach Gyda’n Gilydd (cymru.nhs.uk).
Gallwch hefyd ddilyn y gwasanaeth nyrsio Ysgol ar Twitter , Facebook ac Instagram i gael diweddariadau rheolaidd.
Os oes angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd galwch eu llinell ffôn ganolog 01633 431685 i gael eich cysylltu â’u timau ledled Gwent.
Mae nyrsys ysgol hefyd wedi’u cynnwys yn y rhaglen, ac yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc oed ysgol wrth weithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol addysg, gofal cymdeithasol ac iechyd eraill i helpu plant a phobl ifanc o 4 oed i aros yn iach a chael mynediad i addysg. Mae gwybodaeth pellach ar gael ar wefan Gwasanaeth Nyrsio Ysgol: Iachach Gyda’n Gilydd (Cymru.nhs.uk)
Gallwch hefyd ddilyn y gwasanaeth nyrsio Ysgol ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael diweddariadau rheolaidd.
Dilynwch ni