Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk.
Mae’r wefan hon yn cael ei rheoli gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl i allu defnyddio’r wefan hon.
Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd neu anghenion hygyrchedd.
Rydyn ni hefyd yn darparu technoleg gynorthwyol, gan alluogi pob ymwelydd â’n gwefan ni i addasu eu profiad drwy ystod o opsiynau i weddu i’w hanghenion hygyrchedd ar-lein a’u hiaith. Mae bar offer Recite Me yn darparu swyddogaeth testun-i-leferydd, nodweddion steilio cwbl addasadwy, cymhorthion darllen ac offeryn cyfieithu gyda dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys 35 o leisiau testun i leferydd a llawer o nodweddion eraill. Cliciwch ar offer ‘Accessibility’ uwchben y blwch chwilio i’w actifadu.
Ar ffôn symudol, fe welwch yr opsiwn yn y ddewislen hamburger menu.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.
Rydyn ni’n profi ein gwefan gan ddefnyddio’r platfform monitro gwefannau, WebAim, ac yn cynnal gwiriadau â llaw cyson ar yr holl dudalennau, dogfennau, a chynnwys arall cyn eu bod nhw’n cael eu cyhoeddi.
Os na allwch chi ddod o hyd i rywbeth sydd ei angen arnoch chi ar y safle hwn, dywedwch wrthon ni amdano a byddwn yn darparu’r hyn sydd ei angen arnoch chi mewn ffordd arall:
E-bost: HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk
Er mwyn ein helpu i ddeall y broblem cyn gynted ag y gallwn, dywedwch wrthon ni:
Os ydych chi wedi gwneud cwyn ac nad ydych chi’n fodlon â’r hyn a wnaethom yn ei gylch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.
Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.
Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau neu yn meddwl nad ydyn ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.
Os oes gennych nam lleferydd, yn fyddar neu fod nam ar eich clyw, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddo ‘Next Generation Text’ (a elwir hefyd yn Text Relay a TypeTalk). Deialwch 18001 cyn y rhif ffôn llawn.
Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn gweithredu o sawl lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae rhai o’r safleoedd hyn yn darparu’r gwasanaeth cyfnewid testun.
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os byddwch chi’n cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn ni drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain neu rywun i gyfieithu iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.
Cysylltwch â ni i holi am eich ymweliad.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan ar gael, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Nid ydyn ni’n hawlio baich anghymesur ar unrhyw ran o’n gwefan ni.
Mae rhai o’r gwasanaethau ar-lein rydyn ni’n eu cynnig yn cael eu hadeiladu a’u cynnal gan gyflenwyr trydydd parti ar ein rhan ac efallai na fyddan nhw’n cydymffurfio â’r un lefelau o hygyrchedd â gweddill y wefan.
Rydyn ni’n monitro hygyrchedd y safleoedd hyn ac yn gofyn i gyflenwyr ddatrys materion hygyrchedd sy’n codi.
Rydyn ni’n mynnu bod unrhyw systemau trydydd parti newydd a gomisiynwn ar gyfer y wefan yn cydymffurfio â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau 2.1.
Paratowyd y datganiad hwn ar fedi 5 Gorffennaf 2022. Fe’i diweddarwyd diwethaf ar fedi 5 Gorffennaf 2022.
Dilynwch ni