HANEN – Teacher Talk

Manylion y cwrs a sut i gadw lle

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

HANEN – Teacher Talk

Disgrifiad

Mae Teacher Talk yn rhaglen sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymdrin ag egwyddorion allweddol a strategaethau craidd i helpu pob plentyn yn eich lleoliad i feithrin sgiliau iaith a chymdeithasol, ni waeth beth yw eu harddulliau dysgu a chyfathrebu.

Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan Therapyddion Iaith a Lleferydd ardystiedig Hanen sy’n gweithio o fewn tîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili.

Bydd y rhaglen yn dangos i chi sut i ddefnyddio sgyrsiau bob dydd, chwarae ac arferion dyddiol i hybu cyfathrebu a datblygiad cymdeithasol pob plentyn. Mae pob strategaeth wedi’i chynllunio i ennyn a chynnal diddordeb y plant, gan wneud iaith a dysgu yn rhan hwyliog a naturiol o’u diwrnod.

Mae’r rhaglen yn gymysgedd o sesiynau gwybodaeth grŵp rhithwir a sesiynau 1:1 wyneb yn wyneb yn eich lleoliad, sy’n rhoi cyfle i chi ymarfer a thrafod strategaethau gyda’r hyfforddwr.

Mae defnyddio’r dull Teacher Talk yn sicrhau bod pob plentyn yn eich lleoliad yn cael y cyfle gorau i ddatblygu ei iaith. Mae tystiolaeth dda bod iaith yn hanfodol ar gyfer lles a chanlyniadau bywyd yn ddiweddarach. Mae strategaethau Teacher Talk yn fuddiol i bob plentyn yn eich lleoliad, gan gynnwys:

  • Plant sydd mewn perygl o oedi o ran iaith
  • Plant ag oedi o ran iaith
  • Plant y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw
  • Plant y mae eu hiaith yn ymddangos fel pe bai’n datblygu’n nodweddiadol

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 6 sesiwn. Bydd 3 sesiwn yn weithdai rhithwir mewn grŵp. Bydd 3 sesiwn yn sesiynau 1:1 wyneb yn wyneb yn eich lleoliad, lle bydd yr hyfforddwr yn ymweld â chi. Gweler isod am ddyddiadau / amseroedd penodol y cwrs.

I fynychu’r cwrs, bydd angen:

  • Ymrwymo i fynychu pob un o’r 6 sesiwn.
  • Dyfais gyda meicroffon, camera a chysylltiad rhyngrwyd ar gyfer mynychu gweithdai rhithwir.
  • Man tawel lle na fydd neb yn torri ar eich traws ar gyfer y gweithdai rhithwir.

Byddwch yn ymwybodol y bydd yr ymweliadau â lleoliadau yn gofyn i chi ryngweithio â phlant a myfyrio ar hyn fel rhan o’ch dysgu. Eich cyfrifoldeb chi fydd sefydlu caniatâd i’r plant gael eu recordio at ddibenion hyfforddi staff. Nid yw recordiadau’n cael eu cadw ac maen nhw’n cael eu dileu cyn diwedd yr ymweliad 1:1.

Deilliannau

Mae’r Rhaglen Teacher Talk yn rhoi strategaethau ymarferol, sy’n seiliedig ar ymchwil i chi er mwyn:

  • Nodi arddulliau sgwrsio plant a’r rôl y mae oedolion yn ei chwarae mewn rhyngweithio
  • Rhoi chwe cham ar waith i ddilyn arweiniad y plentyn:  Arsylwi, Aros a Gwrando, Bod Wyneb yn Wyneb, Efelychu, Dehongli, Gwneud Sylw, ac Ymuno a Chwarae
  • Helpu plant i ddod yn bartneriaid sgwrsio gwell trwy ddefnyddio cwestiynau, sylwadau a chiwiau cymryd tro priodol
  • Defnyddio pum cam pwysig i sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei adael allan o’r rhyngweithio yn ystod gweithgareddau grŵp

Bydd pob lleoliad yn derbyn llyfr gwaith sy’n berthnasol i’r rhaglen.

Y gynulleidfa darged

Arweinwyr gofal plant, dirprwyon gofal plant a chynorthwywyr gofal plant.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook