Cymorth yn ystod beichiogrwydd

Cael beichiogrwydd iach

Cael beichiogrwydd iach

Mae llawer i feddwl amdano cyn beichiogi. Mae gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnwys llawer o wybodaeth o’r cyfnod cyn beichiogi i’r cyfnod yn ystod beichiogrwydd, yn ogystal â bwydo a gofalu am eich babi yn ystod y chwe mis cyntaf. Gallwch hefyd ddilyn Gwasanaethau Momolaeth BIPAB ar Facebook i gael diweddariadau rheolaidd.

Mae’r adran, Pwy fydd yn gofalu amdana i?, yn darparu manylion am weithwyr proffesiynol sy’n gallu eich helpu chi drwy gydol eich beichiogrwydd chi ac ar ôl hynny. Os oes gennych chi unrhyw bryderon cynenedigol o natur feddygol, cysylltwch ag Ysbyty Ystrad Fawr – Canolfan Geni. Mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar gael drwy ddilyn Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar Facebook.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ateb rhai o’ch cwestiynau chi wrth i’ch plentyn chi dyfu a datblygu. Os nad ydyn nhw, neu os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni.

Gallwch chi gael llawer o wybodaeth drwy fynychu Rhaglen Cyn Geni Gwent.

Rhaglen Cyn Geni Gwent

Mae Rhaglen Cyn Geni Gwent yn darparu gwybodaeth a chymorth yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth.  Gallwch chi gael mynediad i sesiynau gwybodaeth, cyrsiau yn y gymuned ac ar-lein, fel sy’n cael eu hamlinellu isod:

Deall beichiogrwydd, esgor, genedigaeth, a’ch baban

Deall beichiogrwydd, esgor, genedigaeth, a’ch baban – dyma raglen am ddim sydd ar gael i ddarpar rieni, eu partneriaid, ac aelodau cefnogol o’r teulu neu ffrindiau. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio gan Togetherness, sef tîm iechyd emosiynol y GIG sy’n rhannu addysgu a dysgu sy’n seiliedig ar dystiolaeth am les emosiynol ac iechyd meddwl ataliol yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

Yn ystod y cwrs chwe wythnos, byddwch chi’n archwilio camau allweddol beichiogrwydd, twf a datblygiad ymennydd eich babi, perthnasoedd, genedigaeth, a beth i’w ddisgwyl pan fydd eich plentyn yn cyrraedd. A hithau’n seiliedig ar Ddull Solihull, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gynorthwyo darpar rieni a’u teuluoedd. Mae’r sesiynau yn cael eu hwyluso gan Weithwyr Cymorth i Deuluoedd, Ymwelwyr Iechyd a Bydwragedd, gan greu gofod croesawgar i ddysgu, rhannu profiadau a chysylltu â darpar rieni eraill.

Cofrestrwch ar gyfer y Cyrsiau Cyn Geni yma

Os yw’n well gennych chi, gallwch chi gael mynediad at y Cwrs Cyn Geni Solihull hwn a llawer eraill ar-lein. Ewch i https://togetherness.co.uk/ a defnyddio’r cod mynediad GEYAP i gael mynediad am ddim.

Dechreuadau Disglair

Ar ôl i’ch babi gael ei eni, mae Dechreuadau Disglair yn gwrs 8 wythnos am ddim sy’n rhoi cymorth i rieni yn y misoedd cynnar. Bydd rhieni’n cael cymorth, gwybodaeth a chyngor ar amrywiaeth o bynciau megis bwydo, cynnydd datblygiadol, diogelwch yn y cartref, lles a tylino babi.

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Dechreuadau Disglair.

Cychwyn Iach

Os ydych chi’n feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych chi blentyn o dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth

Os ydych yn gymwys, bydd cerdyn Cychwyn Iach yn cael ei anfon atoch gydag arian arno a gallwch ddefnyddio hwn mewn rhai siopau yn y DU, a bydd taliad ychwanegol yn cael ei roi ar y cerdyn bob 4 wythnos.

Gallwch defnyddio eich cerdyn i brynu:

  • laeth buwch plaen
  • llysiau a ffrwythau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun
  • cod-lysiau ffres, sych neu dun
  • fformiwla babanod wedi’i wneud o laeth buwch

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud cais, ar wefan Cychwyn Iach.

Bwndeli Babi

Bwndeli Babi am ddim bellach ar gael mewn ardaloedd Dechrau’n Deg ledled Cymru!

Mae Bwndel Babi yn cynnwys eitemau hanfodol i gefnogi rhieni newydd a’u babanod. Mae Bwndeli Babi hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant.

Mae’r rhaglen Bwndeli Babi yn rhaglen wedi’i thargedu. Bydd eich bydwraig yn mynd drwy ffurflen gofrestru gyda chi yn eich apwyntiad cynenedigol pan fyddwch tua 25 wythnos yn feichiog.

Maen nhw’n llawn hanfodion i fabanod newydd-anedig, fel dillad, blancedi, llieiniau mwslin, bibiau, thermomedrau a rhagor. I gofrestru, holwch eich bydwraig pan fyddwch chi’n 25 wythnos yn feichiog. Bydd bwndeli’n cael eu dosbarthu rhwng wythnos 32 ac wythnos 34 o’ch beichiogrwydd.

Darllen rhagor: https://www.llyw.cymru/baby-bundle

Cymorth i chi

Mae cyngor ar gael gan Lywodraeth Cymru i’ch helpu chi gyda’r heriau o ddydd i ddydd o fod yn rhiant. Ewch i’w gwefan, Rhianta. Rhowch amser iddo, am awgrymiadau ymarferol am ddim a chyngor arbenigol ar gyfer eich holl heriau magu plant chi.

Siarad gyda fi

Mae ymennydd dy blentyn yn tyfu ac yn gwneud cysylltiadau newydd drwy’r amser. Pan fyddi di’n siarad gyda dy blentyn, rwyt ti’n helpu ei ymennydd i dyfu hyd yn oed yn fwy, gan roi’r dechrau gorau mewn bywyd iddo. Mae chwarae, gwrando a sgwrsio gyda dy blentyn yn gallu ei helpu i ddysgu siarad. Bydd hyn yn golygu y bydd yn gallu gwneud ffrindiau’n haws a’i helpu i deimlo’n hapusach.

Mae gennym lawer o offer, tips a chyngor i helpu i gael dy blentyn bach yn siarad.

Gwylia fi…

O cyn iddo gael ei eni nes iddo dyfu i fyny, galli di gael effaith gadarnhaol ar dy blentyn. Gwylia’r fideos hwyliog hyn i weld ein deg tip gwych i gael dy blentyn i siarad.

Dewch i ni siarad â’ch babi

Mae Dewch i siarad â’ch babi yn gwrs rhyngweithiol, AM DDIM, llawn hwyl i bob teulu â babanod rhwng 3 mis a 12 mis oed. Mae’n cael ei redeg gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) ar y cyd ag Elklan, ac mae’n gallu cael ei gyflwyno naill ai ar-lein neu’n wyneb yn wyneb. Mae’n cynnig amser strwythuredig i ymgysylltu a chwarae gyda’n gilydd, wrth gael rhai awgrymiadau da am gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd ac iaith babanod nawr ac yn y dyfodol. Ewch i wefan GAVO am fanylion neu gofrestru yma.

 

Dilynwch ni

Facebook