Gofal Plant Dechrau’n Deg

Gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg

Gofal Plant Dechrau’n Deg

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Gofal Plant Dechrau’n Deg bellach ar gael i bob plentyn 2 oed ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili!

Mae gofal plant Dechrau’n Deg yn cynnig lleoedd gofal plant wedi’u hariannu i blant 2 i 3 oed sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae lleoedd ar gael o’r tymor yn dilyn pen-blwydd eich plentyn yn ddwy oed hyd at ddiwedd y tymor mae’n cael ei drydydd pen-blwydd ac yn symud ymlaen i Addysg y Blynyddoedd Cynnar.

Mae mynychu gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel yn rheolaidd yn gwella’r deilliannau i blant. Rydyn ni’n annog pob teulu cymwys i fanteisio ar y cyfle.

Yr hyn y byddwch chi’n ei gael

Mae gan blant yr hawl i sesiwn 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mewn rhai achosion (er enghraifft, teuluoedd sy’n gweithio), efallai y bydd dwy sesiwn y dydd ar gael. Gallwch chi drafod hyn gyda’r darparwr gofal plant Dechrau’n Deg o’ch dewis.

Cam 1: Gwirio cymhwysedd eich plentyn

Rhaid i’ch plentyn fodloni’r canlynol:

  • bod yn 2 oed
  • byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Rhaid i’r cyfeiriad fod:

  • yn brif gyfeiriad cartref y plentyn
  • lle mae’r Budd-dal Plant yn cael ei dalu
  • y cyfeiriad sydd wedi’i gofrestru gyda’r ymwelydd iechyd

Peidiwch â defnyddio:

  • cyfeiriad perthynas (fel mam-gu neu dad-cu)
  • cyfeiriad darparwr gofal plant

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyfeiriad gyda’ch cais.

Cam 2: Gwirio pryd dylech chi wneud cais

I’ch helpu chi i wneud cais ar yr adeg gywir, gwiriwch ddyddiad geni eich plentyn yn y tabl isod.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n gwneud cais yn ystod y cyfnodau ymgeisio dewisol. Gallwch chi wneud cais ar ôl y dyddiad hwn, ond mae lleoedd yn gyfyngedig a gall ceisiadau hwyr olygu llai o ddewis o ddarparwyr gofal plant.

Dyddiad geni’r plentyn Cyfnod ymgeisio dewisol Pryd gall eich plentyn gael mynediad at Ofal Plant Dechrau’n Deg Dyddiad y cewch eich hysbysu o’r canlyniad
01/09/2023 a 31/12/2023 Roedd rhwng 01/09/2025 a 03/10/2025 05/01/2026 a Rhagfyr 2026 Within 10 working days of application
01/01/2024 a 31/03/2024 Roedd rhwng 05/01/2026 a 06/02/2026 13/04/2026 a Pasg 2027 Within 10 working days of application
01/04/2024 a 31/08/2024 O 13/04/2026 i 15/05/2026 Medi 2026 a Gorffennaf 2027 Wythnos yn cychwyn 08/06/2026
01/09/2024 a 31/12/2024 01/09/2026 a 02/10/2026 04/01/2027 a Rhagfyr 2027 Wythnos yn cychwyn 09/11/2026
01/01/2025 a 31/03/2025 04/01/2027 a 05/02/2027 05/04/2027 tan  Pasg 2028 Wythnos yn cychwyn 22/02/2027

Cam 3: Gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg a Ariennir

Os yw eich plentyn yr oedran perthnasol ac rydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, llenwch y Ffurflen Cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg.

Bydd angen i chi lanlwytho’r canlynol:

  • tystiolaeth o oedran eich plentyn
  • prawf o gyfeiriad

Ymgeisio am Ofal Plant Dechrau’n Deg

Cam 4: Cymeradwyo cymhwysedd

Byddwch chi’n cael neges e-bost yn cadarnhau a yw’ch plentyn yn gymwys (gweler y tabl uchod am ddyddiadau hysbysu).

Bydd y neges e-bost hon yn cynnwys:

  • côd cymhwysedd eich plentyn
  • Tymor cymhwysedd/dyddiadau cymhwysedd:
  • dyddiad y daw’r ariannu i ben

Mae’r neges e-bost yn cadarnhau cymhwysedd eich plentyn yn unig, nid yw’n sicrhau lleoliad gofal plant. Bydd rhaid i chi drefnu hyn eich hun.

Cam 5: Dod o hyd i ddarparwr Gofal Plant Dechrau’n Deg

Ar ôl i chi gael eich e-bost cymeradwyo, bydd rhaid i chi gysylltu â lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg cymeradwy i drefnu lle.

Mae cymorth ar gael gan y canlynol:

  • eich Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar (os oes un gennych chi), neu
  • Hwb y Blynyddoedd Cynnar

Mae lleoedd gofal plant wedi’u hariannu dim ond ar gael mewn lleoliadau gofal plant cymeradwy sy’n bodloni safonau ansawdd ac sydd dan gontract i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.

Nodyn: Mae lleoedd gwag yn newid yn rheolaidd, ac efallai na fydd gan eich darparwr dewisol le ar gael. Dylech chi hefyd wirio bod modd i’r lleoliad ddiwallu anghenion unigol eich plentyn.

I gael help o ran dewis gofal plant, ewch i’n tudalen Dod o hyd i ofal plant.

Cam 6: Cyn gall cyllid ddechrau

Cyn gall y cyllid ddechrau, bydd rhaid i’ch darparwr gofal plant lenwi Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol ar-lein. Byddan nhw’n gwybod ble mae’r ffurflen a dylech chi fod yn bresennol i’w llenwi.

Mae’r ffurflen hon yn gwneud y canlynol:

  • cadarnhau’r trefniadau gofal plant
  • gofyn am y cyllid

Rhaid i’r ffurflen gynnwys y canlynol:

  • côd cymhwysedd eich plentyn
  • dyddiad cychwyn yr ariannu
  • dyddiad y daw’r ariannu i ben

Mae’r manylion hyn yn eich e-bost cymeradwyo.

Cam 7: Aros am gymeradwyo cyllid

Ni all y cyllid ddechrau nes bydd y Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol wedi’i chymeradwyo.

Byddwch chi a’r darparwr gofal plant yn cael e-bost i gadarnhau’r canlynol:

  • dyddiad cychwyn yr ariannu
  • dyddiad y daw’r ariannu i ben
  • oriau wedi’u hariannu wedi’u cytuno

Gall hyn gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith, efallai’n hirach yn ystod cyfnodau prysur. Os yw’r ffurflen yn anghyflawn, gall hyn oedi’r broses.

Gwneud newidiadau i’ch oriau wedi’u hariannu

Os oes angen i chi wneud y canlynol:

  • newid oriau wedi’u hariannu (hyd at 5 sesiwn 2.5 awr), neu
  • ddod a’r lleoliad i ben yn gynnar

Rhaid i chi siarad â’ch darparwr gofal plant.  Bydd angen ffurflen Lleoli Plentyn Unigol newydd er mwyn addasu’r cyllid sy’n dod i law.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar.

 

Dilynwch ni

Facebook