Rhaglen Hyfforddi – Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Manylion y cwrs a sut i gadw lle

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Rhaglen Hyfforddi – Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Disgrifiad

Mae’r saith modiwl hyfforddi ADY yn cael eu cyflwyno i uwchsgilio darpariaethau gofal plant cofrestredig er mwyn paratoi ar gyfer Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a’r Cod Ymarfer ADY a fydd yn dod i rym ym mis Medi 2021. Mae’n bwysig bod yr holl staff yn gwbl ymwybodol o beth mae hyn yn ei olygu a sut y bydd yn effeithio ar ddarpariaethau gofal plant, gan fod y broses newydd hon yn cwmpasu’r ystodau oedran o enedigaeth i 25 oed.

Deilliannau

Ymhlith y pynciau mae:

  • Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf ADY
  • Cyflwyniad i Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Cyfarfodydd ac adolygiadau Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
  • Targedau SMART
  • Creu lleoliad cynhwysol
  • Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill
  • Gweithio gyda rhieni

Maes pwnc

Rheoleiddio

Cynulleidfa Darged

Mae rhaid i bob Cydlynydd ADY (Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig gynt) o bob lleoliad gofal plant sicrhau eu bod yn cwblhau’r hyfforddiant hwn.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook