Rydyn ni eisiau i bob plentyn ddod yn ddysgwr annibynnol sy’n hyderus ac yn ffynnu mewn amgylchedd dysgu hwyl. Fodd bynnag, mae rhai plant yn cael trafferth gyda hyn ac mae angen cymorth mwy targedig arnyn nhw i’w helpu nhw i ymsefydlu a datblygu eu sgiliau annibyniaeth.
Mae Panel Anghenion sy’n Dod i’r Amlwg y Blynyddoedd Cynnar yn nodi plant a allai fod angen y lefel ychwanegol hon o gymorth, uwchlaw’r ddarpariaeth gyffredinol. Mae’r panel yn cael ei ddefnyddio i gasglu gwybodaeth a thrafod pwyntiau pontio, er enghraifft, pan fydd plentyn yn symud i Addysg y Blynyddoedd Cynnar, i sicrhau bod y plentyn yn cael y cymorth sydd ei angen arno.
Mae’r panel yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn, ychydig cyn pob hanner tymor. Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r plentyn yn cael amser i gynllunio a chynorthwyo lleoliad y plentyn yn ystod y tymor canlynol.
Mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i aelodau’r panel gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r plentyn a’r teulu er mwyn iddyn nhw benderfynu a oes angen unrhyw gymorth pellach ar y lleoliad gofal plant i ddiwallu anghenion y plentyn, fel hyfforddiant ar strategaethau, cyfarpar arbenigol, neu unrhyw gymorth ychwanegol.
Unwaith y bydd y panel wedi cytuno ar lefel y cymorth sydd ei angen, bydd rhiant y plentyn yn cael gwybod am hyn drwy e-bost. Wedyn, gall y rhiant roi’r e-bost hwn i’r lleoliad gofal plant a fydd yn ei ddefnyddio i ofyn am gyllid ar gyfer y cymorth ychwanegol sydd wedi cael ei gytuno.
Cyn i’r lleoliad gofal plant ddechrau, bydd cyfarfod cynllunio pontio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda’r rhiant, y darparwr gofal plant ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn. Yn y cyfarfod, maen nhw’n rhannu gwybodaeth i helpu llunio Proffil Un Dudalen sy’n nodi’n glir anghenion y plentyn o ran cymorth a’r targedau ar gyfer y lleoliad.
Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar, sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda phlant sydd â lefelau amrywiol o anghenion sy’n dod i’r amlwg ac anghenion cymhleth.
Dyma’r aelodau:
Mae cyflwynwyr y panel yn cynnwys:
Dilynwch ni