Profiadau Diddorol

About the course and how to book

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Profiadau Diddorol – Lleoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn unig

Disgrifiad o’r cwrs

Dim ond os ydych chi’n gweithio yn un o leoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar canlynol y byddwch chi’n gymwys i fynychu’r cwrs hwn:

  • Cylch Meithrin Blodau Bach
  • Cylch Meithrin Cwm Derwen
  • Cylch Meithrin Nelson
  • Cylch Meithrin Pontllan-fraith
  • Cylch Meithrin Tedi Twt
  • Cylch Meithrin yr Enfys
  • Dewi Sant
  • Greenfields Nursery, Coed Duon
  • Little Acorns Preschool (Caerphilly) Ltd
  • Little Einsteins Academy
  • Little Einsteins Academy, Tredegar Newydd
  • Markham Playgroup
  • Mini Miners Hall
  • Tiddlers Wraparound

Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn canolbwyntio ar greu profiadau cyfoethog, diddorol sy’n magu chwilfrydedd, creadigrwydd a datblygiad cyfannol plant ifanc. Gan dynnu ar ymarfer y blynyddoedd cynnar, mae’r sesiwn yn archwilio sut y mae cyfleoedd dysgu ymarferol ystyrlon yn gallu cael eu cynllunio a’u cynnal drwy ddull sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n seiliedig ar chwarae.

Bydd cyfranogwyr yn ystyried beth sy’n gwneud profiad yn wirioneddol ddifyr, gan gynnwys rôl diddordebau, dewis a chyfranogiad gweithredol plant. Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio sut y gall ymarferwyr gynllunio pryfocio, datblygu amgylchedd effeithiol ac ymateb yn y foment i ymestyn dysgu. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar sicrhau bod profiadau’n gynhwysol, yn bwrpasol ac yn cyd-fynd ag egwyddorion y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau nas cynhelir.

Deilliannau’r cwrs

  • Deall nodweddion profiadau dysgu diddorol ac ystyrlon mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar.
  • Cydnabod pwysigrwydd dysgu, chwarae ac ymholi sy’n cael ei arwain gan y plentyn wrth hybu ymgysylltiad.
  • Nodi sut i ddefnyddio diddordebau a syniadau plant i lywio cynllunio a darpariaeth.
  • Myfyrio ar yr arfer cyfredol a’r lefel o ymgysylltu yn eu lleoliad nhw.
  • Cynllunio a chyflwyno profiadau sy’n ysgogi, herio a chefnogi pob dysgwr.
  • Defnyddio arsylwadau i addasu ac ymestyn profiadau i ddyfnhau dysgu plant.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook