Gweithdy CIW a Gwella Lleoliadau

Manylion y cwrs a sut i gadw lle

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Gweithdy CIW a Gwella Lleoliadau

Disgrifiad

Mae’r gweithdy hwn yn cefnogi lleoliadau gofal plant blynyddoedd cynnar i ddeall disgwyliadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a defnyddio hunanwerthuso i sbarduno gwelliant parhaus. Bydd cyfranogwyr yn archwilio gofynion arolygu, adnabod cryfderau a meysydd i’w datblygu, a deall sut i greu cynlluniau gweithredu ymarferol i wella ansawdd y ddarpariaeth a chanlyniadau i blant.

Deilliannau

Erbyn diwedd y gweithdy hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

  1. Deall disgwyliadau AGC a sut maent yn berthnasol i arfer bob dydd.
  2. Adnabod cryfderau a meysydd i’w gwella gan ddefnyddio hunanwerthuso effeithiol.
  3. Datblygu cynllun gweithredu syml i gefnogi gwelliant parhaus a chanlyniadau cadarnhaol i blant.

Maes pwnc

Rheoleiddio

Cynulleidfa Darged

Gweithwyr gofal plant / Gwarchodwyr plant / Gwarchodwr Plant (heb ei gofrestru eto)

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Nid oes unrhyw gyrsiau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd.

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant. (Sylwer, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio gan ddefnyddio Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari)

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook