Grŵp C – Diogelu Plant
Disgrifiad
Mae hyfforddiant Grŵp C ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ac sydd â chyfrifoldebau diogelu penodol. Mae angen i’r gweithwyr hyn allu ymateb i bryderon diogelu a chymryd yr awenau o ran pryderon diogelu fel llenwi Ffurflenni Dyletswydd i Adrodd, mynd i gyfarfodydd Amddiffyn Plant ac ysgrifennu adroddiadau ar gyfer cyfarfodydd.
Mae llwybrau ar wahân ar gyfer yr hyfforddiant hwn gan ddibynnu ar a yw’r gweithiwr yn gweithio gydag oedolion, plant neu’r ddau, ac mae’n cynnwys sesiwn hyfforddi 8 awr ac yna 18 awr (6 awr y flwyddyn ar draws tair blynedd) o hyfforddiant ar bynciau diogelu penodol.
Mae enghreifftiau o’r rolau sy’n rhan o Grŵp C yn cynnwys Arweinwyr Gofal Plant, Dirprwy Arweinwyr Gofal Plant, Uwch Reolwyr, Arweinwyr Tîm, Gwarchodwyr Plant, Swyddogion Gofal Plant, Tîm Ymyrraeth Gynnar.
Y gofynion gloywi hyfforddiant yn achos hyfforddiant Grŵp C yw tair blynedd, a rhaid gloywi’r 18 awr o hyfforddiant ychwanegol ar bynciau diogelu penodol bob tair blynedd.
Deilliannau
Ar ddiwedd gweithgaredd dysgu, bydd cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:
- cymhwyso deddfwriaeth, polisïau a chodau ymddygiad perthnasol i’w hymarfer o ddydd i ddydd a chynghori eraill ar y rhain
- diogelu ac amddiffyn pobl ar sail y dystiolaeth sydd ar gael ar y pryd a chodi pryderon i’r lefel nesaf
- myfyrio ar ffactorau, sefyllfaoedd a chamau gweithredu a all gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod a darparu sail resymegol dros weithredu ac ymateb yn briodol i bryderon
- gwybod sut, pryd ac i bwy i roi gwybod am wahanol fathau o gamdriniaeth, esgeulustod a niwed
- dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac unrhyw broses gwneud penderfyniadau rhanbarthol, a chynghori cydweithwyr eraill ar y rhain pan fo angen
- dilyn protocol y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar gyfer ‘datrys gwahaniaethau proffesiynol’
- tystiolaethu bod llais y plentyn neu oedolyn yn ganolog i benderfyniadau diogelu drwy gydol y broses ddiogelu
- egluro rôl eiriolaeth
- deall eu rôl a’u cyfrifoldebau a chyfrannu at fforymau a phrosesau diogelu perthnasol
- deall yr hyn a olygir gan ‘chwilfrydedd proffesiynol’ ac atebolrwydd proffesiynol
- deall egwyddorion goruchwyliaeth effeithiol a chefnogaeth cymheiriaid
- gwybod sut i gynghori a chefnogi eraill i ddiogelu pobl
- deall sut i weithio mewn partneriaeth mewn ffordd aml-asiantaeth, a bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill
- cymryd cyfrifoldeb personol am ymarfer a datblygiad a datblygiad proffesiynol parhaus.
Costau
Ddim yn berthnasol
Sesiynau
Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma
Gwneud cais am le
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ymholiadau
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni