Awyr Agored

About the course and how to book

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Awyr Agored – Lleoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar yn Unig

Disgrifiad o’r cwrs

Dim ond os ydych chi’n gweithio yn un o leoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar canlynol y byddwch chi’n gymwys i fynychu’r cwrs hwn:

  • Cylch Meithrin Blodau Bach
  • Cylch Meithrin Cwm Derwen
  • Cylch Meithrin Nelson
  • Cylch Meithrin Pontllan-fraith
  • Cylch Meithrin Tedi Twt
  • Cylch Meithrin yr Enfys
  • Dewi Sant
  • Greenfields Nursery, Coed Duon
  • Little Acorns Preschool (Caerphilly) Ltd
  • Academi Little Einsteins Cyfyngedig
  • Little Einsteins Academy, Tredegar Newydd
  • Markham Playgroup
  • Mini Miners Hall
  • Tiddlers Wraparound

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn helpu ymarferwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o sut mae ymgysylltu ystyrlon â’r byd naturiol yn gwella dysgu, lles a datblygiad cyffredinol plant. Bydd cyfranogwyr yn myfyrio ar arferion cyfredol ac yn archwilio dulliau effeithiol o greu profiadau dysgu cyfoethog yn yr awyr agored a chysylltiedig â natur sy’n bwrpasol, yn gynhwysol ac yn ymatebol i ddiddordebau plant.

Deilliannau’r cwrs

  • Datblygu dealltwriaeth ymarferwyr o sut mae ymgysylltu ystyrlon â’r byd naturiol yn hyrwyddo dysgu, lles a datblygiad cyfannol plant.
  • Myfyrio ar arferion cyfredol a nodi cyfleoedd i wella profiadau dysgu yn yr awyr agored ac sy’n gysylltiedig â natur o fewn y lleoliad.
  • Archwilio dulliau o greu amgylcheddau dysgu awyr agored cynhwysol, pwrpasol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n ymateb i ddiddordebau a chyfnodau datblygiad plant.
  • Ystyried sut y gall profiadau sy’n seiliedig ar natur hyrwyddo chwilfrydedd, creadigrwydd, gwytnwch, annibyniaeth, ac ymgysylltiad parhaus mewn dysgu.
  • Rhannu syniadau a strategaethau ymarferol i gryfhau cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored ac annog cysylltiadau dyfnach â’r amgylchedd naturiol.

Costau

Ddim yn berthnasol

Sesiynau

Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma

Gwneud cais am le

I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.

Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.

Ymholiadau

Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.

 

Dilynwch ni

Facebook