Canslo a newid archebion

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Canslo a newid archebion

Canslo archebion

I ganslo archeb, rhowch wybod i Hwb y Blynyddoedd Cynnar o fewn 24 awr i ddyddiad y cwrs fel y gall y lle yn ei gynnig i rywun ar y rhestr wrth gefn. Ffoniwch 01443 863232.

Bydd e-bost canslo yn cael ei anfon at y rhai a oedd i wneud yr hyfforddiant, a chopi at reolwr neu gydlynydd hyfforddiant y lleoliad.

Newid archeb

Mae’n bwysig ein hysbysu ni am unrhyw newidiadau i archeb cyn yr hyfforddiant fel bod gan yr hyfforddwr restr presenoldeb gywir ar gyfer y sesiwn. Mae’n bosibl gwrthod mynediad i’r hyfforddiant i unrhyw un nad yw ar y rhestr bresenoldeb.

I newid archeb i ddyddiad arall neu i newid y sawl sy’n gwneud yr hyfforddiant i berson arall mewn lleoliad, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar o fewn 24 awr i ddyddiad y cwrs. Ffoniwch 01443 863232.

Bydd yr archeb wreiddiol yn cael ei chanslo, a bydd e-bost canslo yn cael ei anfon at y rhai a oedd i wneud yr hyfforddiant ac at reolwr neu gydlynydd hyfforddiant y lleoliad. Yna, bydd y manylion newydd yn cael eu hychwanegu, a bydd e-bost cadarnhau archeb yn cael ei anfon at y rhai newydd sy’n gwneud yr hyfforddiant ac at reolwr/cydlynydd hyfforddiant y lleoliad.

Os bydd ffi am y cwrs, bydd y ffi hon yn cael ei throsglwyddo i’r dyddiad arall neu i’r rhai newydd sy’n gwneud yr hyfforddiant.

 

Dilynwch ni

Facebook