Gofal plant Dechrau’n Deg

Gofal plant wedi'i ariannu ar gyfer plant sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg

Gofal plant Dechrau’n Deg

Mae gan bob plentyn sy’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg yr hawl i le gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer y tymor yn dilyn eu hail ben-blwydd hyd at y tymor y mae’n troi’n dair oed ac yn cymryd eu lle mewn addysg y blynyddoedd cynnar.

Mae gan blant yr hawl i 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos yn ystod y tymhorau yn unig.

Mae’r gofal plant wedi’i ariannu ar gael naill ai mewn un o’r lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg sy’n cael ei redeg gan y Cyngor neu mewn lleoliad gofal plant arall sydd wedi’i gontractio i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg ar ein rhan ni.  Rydyn ni hefyd yn cynnig y dewis i deuluoedd gael mynediad at ofal plant cyfrwng Cymraeg lleol.

Mae presenoldeb rhan-amser rheolaidd mewn gofal plant o ansawdd uchel wedi gwella’n sylweddol y canlyniadau i blant. Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg, rydyn ni’n eich annog chi i gymryd eich lle gofal plant chi.

Ydy fy mhlentyn yn gymwys?

Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a yw eich plentyn chi’n gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg.

 
Defnyddiwch lythrennau mawr, e.e CF11 1AA

Sut i wneud cais

Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg, bydd eich ymwelydd iechyd y Blynyddoedd Cynnar chi yn trosglwyddo eich manylion chi i ni sy’n golygu y byddwn ni’n anfon y ffurflen gais atoch chi yn awtomatig drwy e-bost y tymor cyn i’ch plentyn chi ddechrau ei le gofal plant. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig bod gan eich ymwelydd iechyd chi rif ffôn a chyfeiriad e-bost cyfredol ar eich cyfer chi. Os oes angen i chi ddiweddaru’r wybodaeth hon, e-bostiwch ni ar DechraunDeg@caerffili.gov.uk.

Os nad ydyn ni wedi cysylltu â chi, defnyddiwch y gwiriwr cod post uchod i weld a yw eich plentyn chi’n gymwys. Os yn gymwys, gallwch chi e-bostio DechraunDeg@caerffili.gov.uk gydag enw eich plentyn chi, dyddiad geni eich plentyn chi a’ch cyfeiriad llawn chi (gan gynnwys y cod post) fel y gallwn ni wirio a yw eich ymwelydd iechyd chi wedi cyflwyno ffurflen gofrestru’r Blynyddoedd Cynnar i ni.

Pryd gall fy mhlentyn ddechrau ei ofal plant?

Dyddiad geni’r plentyn Y tymor yn dilyn ail benblwydd y plentyn Bydd ffurflen gais yn cael ei hanfon at rieni
1 – 31 Ionawr Tymor yr haf (ar ôl y Pasg) Diwedd Chwefror
1 Ebrill – 31 Awst Tymor yr hydref (Medi) Diwedd mis Mai
1 Medi – 31 Rhagfyr Tymor y gwanwyn (Ionawr) Diwedd Hydref

Sut ydw i’n gwybod os oes gennych chi fanylion fy mhlentyn er mwyn i chi anfon y ffurflen?

Gallwch chi ofyn i’ch ymwelydd iechyd Dechrau’n Deg chi neu, fel arall, e-bostiwch ni yn DechraunDeg@caerffili.gov.uk gydag enw eich plentyn chi, dyddiad geni eich plentyn chi a’ch cyfeiriad llawn chi gan gynnwys y cod post.

 

Dilynwch ni

Facebook