Cyrsiau Hyfforddi Ar-lein

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Cyrsiau Hyfforddi Ar-lein

Hyfforddiant Cwricwlwm Newydd i Gymru

Mae cyfres o fodiwlau dysgu proffesiynol am ddim wedi’u cynllunio i gynorthwyo ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar i fyfyrio ar arfer a darpariaeth yn y meysydd canlynol:

  • Dysgu yn yr awyr agored;
  • Datblygiad plant;
  • Cyfnodau Pontio;
  • Arsylwi;
  • Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae;
  • Dysgu dilys a phwrpasol.

Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys llawlyfr Cyflwyno, y bydd angen ei ddeall cyn ymgymryd â’r dysgu yn y modiwlau, yn ogystal â chanllaw cwestiynau cyffredin.

Modiwlau Dysgu Proffesiynol y Cwricwlwm

Am ragor o wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru ewch i: Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir – Hwb (llyw.cymru)

Cyflwyno’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru

Mae’r cwrs e-ddysgu hwn yn rhoi trosolwg o’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru a gafodd ei lansio ym mis Medi 2021. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant neu bobl ifanc, gan gynnwys rhieni a gofalwyr.

Ystorfa – Hwb (llyw.cymru)

Cyflwyno lleferydd, iaith a chyfathrebu

Dylech chi hefyd gyfeirio at y Llwybr Hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Blynyddoedd Cynnar Caerffili 2023-2028. Mae’r llwybr hwn wedi’i ddatblygu er mwyn darparu gwybodaeth a chanllawiau i ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar sy’n gweithio gyda phlant 0–4 oed 11 mis; gan eu galluogi nhw i nodi eu hanghenion hyfforddi a chael mynediad at hyfforddiant perthnasol.

XX

Hyfforddiant Diogelwch Bwyd

Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn nodi yn adran 10.11, “mae’r rhai sy’n gyfrifol am baratoi a thrin bwyd yn gwbl ymwybodol o reoliadau sy’n ymwneud â diogelwch a hylendid bwyd ac yn cydymffurfio â nhw.” Bydd cwrs Diogelwch Bwyd lefel 2 yn rhoi’r wybodaeth i ymarferwyr baratoi a gweini bwyd yn eu lleoliad yn ddiogel ac yn hyderus.

Mae amryw o ddarparwyr ar-lein a all gynnig yr hyfforddiant hwn gan gynnwys sefydliadau ymbarél.

You searched for food safety – NDNA

Food safety and hygiene for early years settings | PACEY

Hyfforddiant ar-lein yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar alergedd ac anoddefiad bwyd

Mae bwyta’n ddiogel pan fyddwch chi’n byw ag alergedd bwyd yn her. Yr unig ffordd o reoli’r cyflwr yw osgoi’r bwyd sy’n achosi adwaith. Mae’n bwysig bod Gweithredwyr Busnesau Bwyd (FBOs) yn darparu bwyd diogel, a chyfrifoldeb awdurdodau lleol yw gorfodi’r rheolau mewn perthynas ag alergenau.

Mae chwe modiwl sy’n cynnwys gwiriad gwybodaeth ar ddiwedd pob un. Bydd angen i chi gofrestru, ateb arolwg byr ac yna astudio’r modiwlau. Unwaith y byddwch wedi cwblhau pob modiwl, byddwch yn gallu cwblhau’r prawf sy’n cael ei asesu ar gyfer pob modiwl. Bydd angen i chi basio pob prawf o’r 6 modiwl i ennill eich tystysgrif.

Food Standards Agency food allergy online training

Blynyddoedd Cynnar Cymru

Nod Blynyddoedd Cynnar Cymru yw darparu cymorth i’r gweithlu i ennill y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen mewn gyrfa gofal plant a chael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth trwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol o safon. Am ragor o fanylion ac i weld eu cynlluniwr hyfforddiant diweddaraf, ewch i’w gwefan.

Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd

Cyrsiau hyfforddi’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar-lein am ddim. Cyrsiau hyfforddi’r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar-lein am ddim – Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd

Mae holl hyfforddiant y blynyddoedd cynnar a gofal plant Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd yn gyfredol, gan adlewyrchu’r arfer gorau gofal plant diweddaraf. Arbenigwyr y blynyddoedd cynnar Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd sydd wedi’i ysgrifennu.

PACEY (Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar)

Gall hyfforddiant eich helpu chi i baratoi ar gyfer rôl newydd neu gael y gorau o’ch swydd bresennol. Dewch o hyd i hyfforddiant a chymwysterau’r blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd ar gael i chi.

Hyfforddiant a chymwysterau | PACEY

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs (CPCKC)

Mae gan staff Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs brofiad mewn datblygu a chyflwyno gweithdai a chymwysterau i wella ansawdd y gofal, y chwarae a’r dysgu sydd ar gael i blant mewn clybiau. Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn ganolfan gymeradwy gan y Sefydliad Dyfarnu, CACHE, ar gyfer darparu cymwysterau achrededig mewn Gwaith Chwarae ac Asesu.

Hyfforddiant a Digwyddiadau – Clybiau Plant Cymru (CY)

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)

Fel gweithwyr gofal plant, bydd dilyn hyfforddiant a pharhau â’ch datblygiad proffesiynol yn cynyddu eich sgiliau a’ch gwybodaeth a fydd yn eich arwain at ddod yn well ymarferydd.

Mae detholiad o gyrsiau rhad ac am ddim y Brifysgol Agored wedi’u dewis y gallech fod â diddordeb ynddynt.

  • Ymlyniad yn y Blynyddoedd Cynnar: Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn, Ymlyniad yn y blynyddoedd cynnar, yn ymdrin â theori ac ymchwil ym maes ymlyniad yn ystod plentyndod cynnar. Yn y 1950au, John Bowlby oedd y person cyntaf i ddatblygu theori am arwyddocâd ymlyniad cynnar rhwng gofalwyr a phlant ifanc iawn. Mae ei waith wedi ysgogi maes ymchwil enfawr a chynhyrchiol iawn gyda goblygiadau pwysig i ofal plant. Mae’r cwrs OpenLearn hwn yn disgrifio damcaniaeth Bowlby a’r gwaith sydd wedi’i adeiladu arni, wedi’i ddarlunio â recordiadau fideo o’r asesiad o ymlyniad mewn labordy a sgwrs gan ymchwilydd ymlyniad amlwg.
  • Safbwynt plant ar chwarae:In this free course, Children’s perspectives on play, you are asked to put yourself in the place of young children and to think about their view of play and their reasons for playing. When children have personal freedom to choose and make decisions about what and who they want to play with, as well as where they want to play, they are highly self-motivated and active in their engagements with everything around them. In this course you will think about how you listen to children’s perspectives, why it is important and also consider the choices children make about where they play and why.
  • Gwaith Tîm ac Arweinyddiaeth y Blynyddoedd Cynnar: Mae’r cwrs rhad ac am ddim hwn, gwaith tîm ac arweinyddiaeth y blynyddoedd cynnar, yn archwilio agweddau ar waith tîm ac arweinyddiaeth ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar.
 

Dilynwch ni

Facebook