Telerau ac Amodau

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Telerau ac Amodau a Gwybodaeth am Gadw Lle

Mae Rhaglen Hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Plant wedi’i chynllunio i fodloni gofynion Rheoleiddiol a Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer gofal plant a reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Rydyn ni hefyd yn darparu llawer o gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) i ymarferwyr. Mae wedi’i ariannu’n rhannol gan wasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili.

Isod y mae’r amodau ar gyfer cadw lle ar unrhyw gwrs yn y rhaglen hyfforddi yn ogystal â manylion am sut i gadw lle.

Meini prawf cymhwysedd

Mae’r hyfforddiant amlasiantaeth hwn ar gael i bob gweithiwr proffesiynol yn y sector gofal plant a gynhelir a nas cynhelir ac sy’n gweithio ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar hyn o bryd a gall gynnwys gwirfoddolwyr a darparwyr anghofrestredig mewn lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar a gofal plant.

Cyfrifoldeb Defnyddwyr

Rhaid i’r rheolwr gofal plant neu’r cydlynydd hyfforddiant:

  • Sicrhau mai dim ond ar gyfer eu hunain neu eu staff/cydweithwyr nhw y maen nhw’n trefnu hyfforddiant
  • Rhoi gwybod i Dîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili pan fydd staff yn gadael a staff newydd yn dechrau fel bod y data sy’n cael eu cadw ar Dewis yn gywir ac yn gyfredol.
  • Sicrhau bob cwrs yn cael ei drefnu gan ddefnyddio’r Ffurflen Gais am Hyfforddiant ar-lein.
  • Sicrhau bod cynnwys y cwrs yn bodloni eu hanghenion hyfforddi nhw cyn gofyn am hyfforddiant.
  • Sicrhau bod y rhai sy’n gwneud y cwrs wedi darllen y cytundeb dysgu/cod ymddygiad ac yn cadw ato. Gall methu â gwneud hynny olygu na fydd yr unigolyn yn gallu gwneud cyrsiau yn y dyfodol.
  • Egluro’r broses hyfforddi i’w staff nhw.
  • Hysbysu eu staff nhw y bydd eu henwau a’u cyfeiriadau e-bost nhw yn cael eu rhannu ar y Ffurflen Gais am Hyfforddiant a cheisio eu caniatâd i’w manylion nhw gael eu cadw a’u defnyddio at y diben hwn.
  • Sicrhau bod staff yn monitro eu negeseuon e-bost nhw yn rheolaidd i sicrhau nad ydyn nhw’n colli unrhyw e-byst sy’n ymwneud â’r cwrs.
  • Sicrhau bod ffioedd pob cwrs yn cael eu talu o fewn 5 diwrnod i ddyddiad y cwrs.

Gofyn am Hyfforddiant

  • Rhaid i leoliadau gofrestru ar Dewis cyn y gallan nhw drefnu hyfforddiant.
  • Rhaid bob cwrs yn cael ei drefnu gan ddefnyddio’r Ffurflen Gais am Hyfforddiant ar-lein.
  • Yr uchafswm o leoedd y gall lleoliadau ei gadw ar gyfer pob cwrs yw 2 berson. Os ydych chi’n gofyn am ddau le ond dim ond un lle sydd ar gael, bydd y person sy’n cael ei enwi’n gyntaf ar y ffurflen yn cael blaenoriaeth.
  • Os oes lleoedd ar gael: Bydd y rhai sy’n gwneud y cwrs a rheolwr/cydlynydd hyfforddiant y lleoliad yn cael e-bost gan Hyfforddiant Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru yn cadarnhau hyn.
  • Os nad yw’r lleoedd ar gael, bydd y rhai sydd wedi gofyn amdanyn nhw yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros a bydd rheolwr/cydlynydd hyfforddiant y lleoliad yn cael e-bost yn cadarnhau hyn.
  • Bydd y rhai sy’n gwneud y cwrs a rheolwr/cydlynydd hyfforddiant y lleoliad yn cael e-bost atgoffa 8 diwrnod cyn dyddiad yr hyfforddiant.

Taliadau

  • Os oes ffi am gadw lle, bydd rheolwr neu gydlynydd hyfforddiant y lleoliad yn cael e-bost yn gofyn am daliad.
  • Rhaid i bob taliad gael ei wneud gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio’r Ffurflen Talu am Gwrs ar-lein. Ni fydd sieciau, arian parod, na throsglwyddiadau banc yn bosibl.
  • Rhaid talu am bob cwrs o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cwrs. Bydd yr archeb yn cael ei chofnodi fel ‘Cymeradwy – yn aros am daliad’ hyd nes y bydd taliad wedi’i wneud.
  • Unwaith y byddwch chi wedi gwneud eich taliad chi, byddwch chi’n cael derbynneb drwy e-bost.
  • Unwaith y bydd taliad wedi’i wneud, bydd eich archeb chi yn cael ei gadarnhau drwy e-bost. Dim ond wedyn y bydd y broses cadw lle ar gwrs wedi’i chwblhau.
  • Bydd un e-bost atgoffa am wneud taliad yn cael ei anfon 10 diwrnod cyn dyddiad y cwrs.
  • Os nad yw ffioedd cwrs yn cael eu talu, bydd yr archeb ei ganslo, a bydd rhywun ar y rhestr wrth gefn yn cael cynnig lle.
  • Bydd diffyg presenoldeb heb ein hysbysu 24 awr ymlaen llaw yn arwain at y gost lawn.

Canslo Archebion

  • I ganslo archeb, rhowch wybod i Hwb y Blynyddoedd Cynnar o fewn 24 awr i ddyddiad y cwrs fel y gall y lle yn ei gynnig i rywun ar y rhestr wrth gefn. Ffoniwch 01443 863232 neu gwblhau ein Ffurflen Newid Archebion ni.
  • Bydd e-bost canslo yn cael ei anfon at y rhai a oedd i wneud yr hyfforddiant, a chopi at reolwr neu gydlynydd hyfforddiant y lleoliad.

Newid Archeb

  • Mae’n bwysig ein hysbysu ni am unrhyw newidiadau i archeb cyn yr hyfforddiant fel bod gan yr hyfforddwr restr presenoldeb gywir ar gyfer y sesiwn. Mae’n bosibl gwrthod mynediad i’r hyfforddiant i unrhyw un nad yw ar y rhestr bresenoldeb.
  • I newid archeb i ddyddiad arall neu i newid y sawl sy’n gwneud yr hyfforddiant i berson arall mewn lleoliad, cysylltwch â Hwb y Blynyddoedd Cynnar o fewn 24 awr i ddyddiad y cwrs. Ffoniwch 01443 863232 neu gwblhau ein Ffurflen Newid Archebion ar-lein.
  • Bydd yr archeb wreiddiol yn cael ei chanslo, a bydd e-bost canslo yn cael ei anfon at y rhai a oedd i wneud yr hyfforddiant ac at reolwr neu gydlynydd hyfforddiant y lleoliad. Yna, bydd y manylion newydd yn cael eu hychwanegu, a bydd e-bost cadarnhau archeb yn cael ei anfon at y rhai newydd sy’n gwneud yr hyfforddiant ac at reolwr/cydlynydd hyfforddiant y lleoliad.
  • Os bydd ffi am y cwrs, bydd y ffi hon yn cael ei throsglwyddo i’r dyddiad arall neu i’r rhai newydd sy’n gwneud yr hyfforddiant.

Cyrsiau wedi’u Canslo

  • Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn cadw’r hawl i ganslo cwrs hyfforddi neu newid yr hwylusydd enwedig.
  • Os caiff cwrs ei ganslo, bydd hysbysiad o’r canslo yn cael ei anfon at bawb sy’n gwneud y cwrs drwy e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost sydd wedi’i ddarparu ar y Ffurflen Gais am Hyfforddiant.
  • Bydd hysbysiad hefyd yn cael ei anfon at reolwr/cydlynydd hyfforddiant y lleoliad sy’n gyfrifol am sicrhau bod holl staff eu lleoliad nhw yn ymwybodol o’r canslo.
  • Os bydd cwrs yn cael ei ganslo, bydd yr holl daliadau sy’n ymwneud â’r cwrs hwnnw naill ai’n cael eu trosglwyddo i ddyddiad arall neu’n cael eu had-dalu.

Lleoliad

  • Mae Tîm Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw’r hawl i newid lleoliad unrhyw un o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi’i drefnu.
  • Mewn digwyddiad o’r fath, bydd hysbysiad o’r newid yn cael ei anfon drwy e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost ar y Ffurflen Gais am Hyfforddiant.
  • Ni fydd Tîm Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gyfrifol os na chaiff blychau post eu monitro. Ni fydd ad-daliad neu drosglwyddiad yn cael eu cynnig os mae ymdrech resymol wedi cael ei wneud i hysbysu’r rhai sy’n gwneud yr hyfforddiant o’r newid ac maen nhw’n mynd i’r lleoliad anghywir.

Force Majeure

Ni fydd Tîm Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn atebol am unrhyw fethiant neu oedi yn y perfformiad, yn gyfan neu’r rhannol o unrhyw un o’n rhwymedigaethau sy’n deillio o neu y gellir ei briodoli i weithredoedd, digwyddiadau, esgeulustod neu ddamweiniau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i streiciau, cloi-allan neu anghydfodau diwydiannol eraill (p’un a yw’n cynnwys ein gweithlu ni neu unrhyw barti arall), gweithredoedd Duw, rhyfeloedd, terfysgoedd, cynyrfiadau sifil, difrod maleisus, cydymffurfio ag unrhyw gyfraith neu orchymyn y llywodraeth, rheolau, rheoliadau neu gyfarwyddiadau, damweiniau, offer yn torri, tanau, llifogydd, stormydd, clefydau pandemig, epidemigion neu achosion eraill o afiechyd neu haint, neu fethiant yn y cyflenwad cyhoeddus trydan, gwresogi, goleuo, aerdymheru neu offer telathrebu

 

Dilynwch ni

Facebook