Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni’n creu gweithlu hynod hyfforddedig, medrus, llawn cymhelliant i gynorthwyo pob plentyn i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
Mae partneriaid y Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu’r llwybr hyfforddiant hwn i alluogi ymarferwyr i nodi’n glir pa hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, sut i’w gael, a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach. Yn ogystal â hyfforddiant, mae’n darparu mynediad at becynnau cymorth a fframweithiau hunanwerthuso i ymarferwyr eu defnyddio.
Lleferydd iaith a chyfathrebu a Dechrau’n Deg: canllawiau. Llywodraeth Cymru 2024
Mae’r llwybr wedi’i greu i gynorthwyo ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant 0–4 oed 11 mis ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae gwybodaeth am gael mynediad at yr hyfforddiant wedi’i sefydlu drwy’r ddogfen.
Mae’r llwybr hyfforddiant yn dangos yn glir iawn pa gwrs sydd fwyaf addas ar gyfer pob swydd. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os ydych chi’n ansicr mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni yn HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk.
Dilynwch ni