Dim ond os ydych chi’n gweithio yn un o’r leoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar canlynol y byddwch chi’n gymwys i fynychu’r cwrs hwn:
Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn archwilio’r rôl hanfodol o arsylwi a chynllunio wrth ategu dysgu a datblygiad plant ifanc mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar. Mae’r sesiwn yn tynnu sylw at sut y gall dulliau meddylgar, ymatebol o arsylwi ac asesu lywio cynllunio ystyrlon sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Bydd cyfranogwyr yn ystyried gwahanol fathau o arsylwi a sut y mae’r rhain yn gallu cael eu defnyddio i ddeall diddordebau, cryfderau a chamau nesaf plant mewn dysgu. Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio sut y gall cynllunio barhau i fod yn hyblyg ac yn ymatebol, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei llywio gan anghenion plant yn hytrach na chanlyniadau sefydlog.
Ddim yn berthnasol
Mae’r amserlen hyfforddi bresennol ar gael yma
I wneud cais am le, cwblhewch ein ffurflen gais ni am hyfforddiant.
Os yw’r lle ar gael, bydd yn cael ei recordio ar Dewis a byddwch chi’n cael gwybod drwy e-bost.
Ffoniwch ein sef Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.
Dilynwch ni