Cod Ymddygiad

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn unig.

Cod Ymddygiad

Mae Gwasanaeth Datblygu Gweithlu Blynyddoedd Cynnar Caerffili yn anelu i ddarparu hyfforddiant o ansawdd a safon uchel a fydd yn arwain, ysbrydoli a chefnogi holl gyfranogwyr y cwrs yn eu datblygiad proffesiynol.

Mae ein tîm yn anelu at greu awyrgylch o frwdfrydedd, cydgefnogaeth a pharch rhwng aelodau staff, hyfforddwyr a chyfranogwyr er mwyn mwyhau profiadau a chanlyniadau dysgu’r unigolion.

Anogir pob hyfforddwr a chyfranogwr i wrando ar, ac ystyried barn ei gilydd. Cofiwch mai arbenigwr yn ei faes penodol yw’r hyfforddwr, ac felly gofynnwn i chi barchu hyn. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig i ni a chaiff cyfranogiad cadarnhaol ei annog.

Gall rhai o’r wybodaeth a rennir yn y sesiwn hyfforddi, gael eu hystyried i fod yn gyfrinachol, ac felly ni ddylid ei thrafod y tu allan i’r ystafell hyfforddi. Dylai’r hyfforddwr / aelod staff dynnu sylw at hyn ar ddechrau’r cwrs.

Felly, rydym yn gofyn am gydweithrediad yr holl gyfranogwyr i gadw at ein Cod Ymddygiad i sicrhau bod y digwyddiad hyfforddiant yn cael ei redeg yn llwyddiannus mewn amgylchedd saff a diogel. Gall methiant i gadw at hyn arwain at waharddiad o gyrsiau yn y dyfodol.

Gofynnir i chi sicrhau eich bod yn cyrraedd ar amser fel y gall pob cwrs ddechrau yn brydlon ac yn ddi-dor. Os byddwch yn cyrraedd yn hwyrach nag 20 munud ar ôl yr amser dechrau a nodir, gall yr hyfforddwr / aelod staff wrthod mynediad i’r cwrs / rhaglen hyfforddi ar y sail y byddwch wedi colli gormod o gynnwys y cwrs. Yn yr achos hwn, ni roddir unrhyw ad-daliad ar gyfer y cwrs.

Gwneud Hyfforddiant Ar-lein e.g. Microsoft Teams or Zoom

Wrth fynychu hyfforddiant rhithwir ar-lein, rydyn ni’n awgrymu’n gryf y dylid defnyddio cyfrifiadur neu liniadur. Dylai hwn allu chwarae fideo diffiniad uchel safonol wedi’i ffrydio. Bydd angen cysylltiad band eang cyflym a sefydlog ar gyfranogwyr hefyd er mwyn osgoi tarfu ar y cwrs ac i gael y gorau o’r hyfforddiant. Os ydych chi’n gwneud y cwrs o gartref, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio man tawel, i ffwrdd o unrhyw wrthdyniadau.

Er ei bod yn bosibl defnyddio ffôn clyfar neu lechen ar gyfer rhywfaint o hyfforddiant, nid ydyn ni’n awgrymu gwneud hynny gan y gall y profiad o ddefnyddio’r dyfeisiau hyn fod yn gyfyngedig iawn ac yn anaddas ar gyfer rhai cyrsiau hyfforddi. Bydd hyn, fel arfer, yn cael ei nodi yn amlinelliad y cwrs.

Wrth fynychu hyfforddiant wyneb yn wyneb

Gall yr hyfforddwr / aelod staff gael barn ei hun mewn perthynas â defnyddio ffonau symudol. Os nad yw’r hyfforddwr / aelod staff yn datgan ei farn, disgwylir i chi droi eich ffonau i’r modd tawel i leihau’r posibilrwydd o darfu ar y cwrs. Gofynnir i chi aros nes amser egwyl ac amser cinio i gynnal unrhyw sgyrsiau / anfon negeseuon testun / anfon negeseuon oni bai ei fod yn argyfwng.

Cwblhewch ein ffurflen werthuso cwrs ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych er mwyn ein galluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth ymhellach.

 

Dilynwch ni

Facebook